Ar hyn o bryd rydym yn marchnata cartrefi dwy ystafell wely ar ddatblygiad newydd sbon Redrow Homes yn ardal boblogaidd Llys-faen.
Caiff eiddo ei werthu fel Ecwiti a Rennir lle bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn prynu cyfran 70% a bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill. Ni fydd perchnogion newydd yn talu rhent ar y gyfran nad ydynt yn berchen arni.
The AVON (Plot 522)
Math o Eiddo - Tai Pen Rhes 2 Ystafell Wely
Pris Prynu PâCh - £169,750 (cyfran ecwiti o 70%)
Pris y Farchnad - £242,500
Cyfran Cyngor Caerdydd – 30%
Cwblhau Adeiladau – Awst / Medi 2021
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 02/03/21.
Caiff eiddo eu dyrannu yn ôl trefn y ceisiadau. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ddyrannu eiddo i ymgeiswyr llwyddiannus.
Cofrestrwch gyda’n rhestr aros cyn gwneud cais am becyn ymgeisio.
Ystafell Farchnata a’r Cartref Arddangos ar y Safle
Mae'r swyddfa werthu ar y safle yn agor ym mis Chwefror 2021. I gael rhagor o wybodaeth am yr eiddo hyn neu'r datblygiad yn gyffredinol, gallwch ffonio'r tîm gwerthu o hyd -
Ffôn y Swyddfa Werthu - 029 2060 1690 / 029 2060 0719
Cyfeiriad y datblygiad
Datblygiad Churchlands
Llwyn-y-Pia Road
Llys-faen
Caerdydd
CF14 0SX