Pan fyddwch yn rhentu gennym ni, nid yw eich taliad rhent yn cynnwys yswiriant.
Dylech ystyried beth byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei gynnwys ar eich cyfer chi, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen un arnoch.
Mae yswiriant cynnwys wedi'i gynllunio i helpu i ddiogelu eich eiddo. Ni waeth pa mor ofalus ydych chi, mae perygl bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn.
Ynglŷn â'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref
Mae'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref yn gynllun yswiriant arbenigol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Mae tenantiaid Cyngor Caerdydd yn gymwys i wneud cais am y cynllun. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os ydych yn rhentu llety dros dro neu eiddo wedi'i ddodrefnu.
Gall y cynllun gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref. Dyma rai mathau o eitemau a fyddai'n cael eu cynnwys:
- Dodrefn
- Carpedi
- Llenni
- Dillad
- Dillad Gwely
- Eitemau trydanol
- Gemwaith
- Lluniau
- Addurniadau
Mae'r yswiriant yn amodol ar y telerau, amodau, cyfyngiadau a gwaharddiadau sydd wedi'u cynnwys yn Llyfryn Polisi'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref. Mae Thistle wedi cysylltu ag un yswiriwr Aviva Insurance Limited i ddarparu'r yswiriant hwn.
Os nad ydych yn siŵr a yw'r polisi yswiriant hwn yn iawn i chi, cysylltwch â ni ar 029 2053 7382.
Buddion y cynllun
- Dim tâl ychwanegol i’w dalu pe baech yn gwneud hawliad
- Mae lladrad, difrod dŵr, tân a risgiau eraill y cartref wedi eu cynnwys.
- Mae gwelliannau tenantiaid wedi’u cynnwys. Mae hyn yn cynnwys hyd at £2000 neu 20% o'r swm sydd wedi'i yswirio, pa un bynnag sydd fwyaf.
- Mae lladrad neu ymgais i ladrata cynnwys mewn siediau, adeiladau allanol a garejys wedi’u cynnwys. Mae hyn hyd at £2000.
- Mae difrod i wydredd allanol wedi’i gynnwys.
- Mae newid cloeon a gosod cloeon newydd ar gyfer drysau allanol a larymau os yw allweddi'n cael eu colli neu eu dwyn wedi’u cynnwys.
- Nid oes angen i chi gael cloeon drws neu ffenestr arbennig, dim ond drws ffrynt y gellir ei gloi.
Faint fydd y cynllun yn ei gostio
- Mae’r premiymau’n dechrau o 74c yr wythnos ar gyfer tenantiaid dan 60 oed am yswiriant gwerth £8,000.
- Mae’r premiymau’n dechrau o 56c yr wythnos ar gyfer tenantiaid dan 25 neu’n 60 ac yn hŷn am yswiriant werth £6,000.
Mae yswiriant niwed damweiniol estynedig ar gael am bremiwm ychwanegol. Darllenwch y pecyn cais i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i wneud cais
Os hoffech wneud cais gallwch lenwi ffurflen gais:
Os hoffech chi ofyn am becyn cais, cysylltwch â ni ar 029 2053 7382.
Cyn cwblhau cais, darllenwch Lyfrynnau Gwybodaeth Bwysig i Gwsmeriaid a Pholisi Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref.
Sylwer: Trefnir y polisi yswiriant a ddarparwn ar sail nad yw'n cael ei argymell. Byddwch yn cael gwybodaeth allweddol fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa yswiriant sydd orau i chi.
Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, dylech ddilyn y weithdrefn gwyno ar gyfer y Gwasanaethau Yswiriant Thistle. Mae'r ddogfen hon yn esbonio sut y gallwch gyflwyno cwyn i Wasanaethau Yswiriant Thistle.
Mae Thistle Tenant Risks yn arddull fasnachu o Thistle Insurance Services Limited. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Cofrestrwyd yn Lloegr o dan Rhif 00338645. Swyddfa Gofrestredig: Parc Busnes Rossington, West Carr Road, Retford, Swydd Nottingham, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o'r Grŵp PIB.