Rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn ar gyfraddau rhent y cyngor ac a ydych yn credu eu bod yn werth da am arian. Rydyn ni hefyd eisiau eich barn chi ar bennu cyfraddau rhent o fis Ebrill 2024.
Llywodraeth Cymru sy'n pennu faint y gellir cynyddu cyfraddau rhent cynghorau. Dydyn ni ddim wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â faint fydd hyn o fis Ebrill nesaf.
Dywedodd mwyafrif y rhai a ymatebodd i'n harolwg rhent y llynedd bod rhenti Cyngor Caerdydd yn werth da am arian. Fe wnaethant hefyd gefnogi ein cynlluniau i barhau i wella ac addasu ein heiddo presennol, yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd o ansawdd da.
Rydyn ni felly yn cynnig gosod ein rhenti ar y swm llawn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu, cyn belled â bod y rhenti hyn yn parhau'n fforddiadwy yn unol ag asesiad Joseph Rowntree.
Dweud eich dweud