Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Olyniaeth tenantiaeth

Olyniaeth tenantiaeth yw’r broses o drosglwyddo tenantiaeth i berson arall pan fo tenant yn marw.

 

 

Mae’r rheolau o ran olyniaeth tenantiaeth yn weddol gymhleth a dylech bob amser dalu sylw i fanylion y cytundeb tenantiaeth a chael cyngor.


Yn gyffredinol, gellir trosglwyddo tenantiaethau i’r canlynol:


  • y tenant byw lle bo marwolaeth mewn cyd-denantiaeth,
  • gŵr, gwraig neu bartner sy’n byw gyda’r tenant ar adeg y farwolaeth, mewn achosion o denantiaeth un person.
  • Os oes gennych denantiaeth wedi’i diogelu neu wedi’i rheoleiddio efallai bydd rheolau gwahanol yn berthnasol felly dylech gael cyngor.


Tenantiaid y cyngor a chymdeithasau tai


Os nad oes gŵr, gwraig neu bartner, weithiau gellir trosglwyddo’r denantiaeth i aelod arall o’r teulu.


Rhaid bod y person hwnnw fod wedi byw gyda’r tenant yn yr eiddo fel ei unig neu brif gartref am o leiaf 12 mis cyn marwolaeth y tenant.


Mewn achosion o’r fath, weithiau gellir gofyn i’r tenant newydd symud i eiddo arall, er enghraifft os yw’r llety presennol yn fwy na’r hyn sydd ei angen arno, neu os yw wedi’i addasu ar gyfer person anabl ac nad oes angen yr addasiadau ar y tenant newydd.

 

Cael cyngor


Os ydych yn denant gyda’r cyngor neu gymdeithas dai, cysylltwch â’ch landlord i drafod eich opsiynau, neu asiantaeth gynghori i gael cyngor annibynnol.


Swyddfeydd tai 

Cymdeithasau Tai yng Nghaerdydd

 

Am ymholiadau tai, cysylltwch â SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk​.


Rhoi gwybod i’ch landlord


Mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch landlord cyn gynted â phosibl er mwyn gallu diwygio’r cofnodion Budd-dal Tai. Bydd hyn yn golygu y gallwch osgoi gordaliadau y bydd yn rhaid eu hadennill gennych yn y dyfodol. Os nad ydych yn teimlo y gallwch wneud hyn, gofynnwch i gyfaill neu berthynas ffonio ar eich rhan.

© 2022 Cyngor Caerdydd