Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Atgyweirio eich cartref

Tra’n byw yn eiddo’r cyngor, gall fod angen i chi:

  • gynnal atgyweiriadau i’r tŷ eich hun, neu
  • adrodd am atgyweiriad er mwyn i ni ddelio ag ef.


A fyddech cystal ag adrodd am bob atgyweiriad nad yw’n frys gan ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein.

Cysylltwch â C2C ar gyfer gwaith atgyweirio brys yn unig​.​

Chi sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • amnewid gwydr wedi torri (oni bai ei fod yn ganlyniad i drosedd)
  • addurno’r tu mewn
  • allweddi newydd
  • cloeon wedi'u difrodi
  • seddi a chaeadau toiledau
  • plygiau a chadwyni sinciau, baddon a basnau
  • cysylltu cwcerau, peiriannau golchi ac offer eraill
  • drysau mewnol
  • rhwystrau i sinciau, baddonau a basnau
  • erialau teledu i dai
  • leiniau sychu dillad sy’n troi i dai
  • atgyweirio gosodiadau a ffitiadau lle mae difrod yn faleisus neu oherwydd esgeulustod
  • bylbiau golau (ac eithrio mewn mannau cymunedol)
  • silffoedd, rheiliau cotiau ac ati wedi'u gosod gan denantiaid
  • addasiadau anawdurdodedig/gwaith y cartref


I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch yn eich Llawlyfr Tenantiaid.​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Ni sy’n gyfrifol am:

  • gynnal a chadw adeiledd eich cartref, a
  • sicrhau bod ffitiadau ar gyfer dŵr, glanweithdra, nwy a thrydan yn ddiogel ac yn gweithio.

Rydym yn categoreiddio pob atgyweiriad fel y gallwn flaenoriaethu'r gwaith y mae angen ei wneud.

Y categorïau atgyweirio yw:
  • Gwaith brys (2 awr i ymateb a 24 awr i'w wneud yn ddiogel)
  • Gwaith brys (5 niwrnod gwaith)
  • Gwaith arferol (25 niwrnod gwaith). Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu popeth nad yw'n waith atgyweirio Argyfwng neu Frys.
 
​​ Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Cytundeb Tenantiaeth.​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​

Gwaith Argyfwng

Atgyweiriadau argyfwng megis yr enghreifftiau canlynol:
  • trydan peryglus,
  • gollyngiadau na ellir eu rheoli,
  • toriadau boeleri argyfwng, neu
  • eiddo nad yw’n ddiogel​

​​Gwaith Brys

Atgyweiriadau brys megis yr enghreifftiau canlynol:

  • Gollyngiadau y gellir eu rheoli,
  • atgyweiriadau i gawod,
  • archwilio problemau lleithder, a
  • systemau mynediad drysau cymunedol
​​
 
​​

Gwaith Arferol

Atgyweiriadau arferol megis yr enghreifftiau canlynol:

  • Plastro waliau,
  • gât a ffensys,
  • cwteri, a
  • gwaith coed


​ ​​ ​

Rydym yn cynnal gwaith cynnal a chadw i holl gartrefi'r cyngor yn flynyddol i newid neu adnewyddu elfennau o'ch cartref sy'n dod tua diwedd eu hoes ddefnyddiol.

Dyma enghreifftiau o waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio:

  • paentio ac atgyweirio allanol,
  • uwchraddio systemau a boeleri gwres canolog presennol,
  • adnewyddu to,
  • newid clymiadau waliau ceudod, a
  • gosod gwydr dwbl
 
​​

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi manylion am ba waith cynnal a chadw fydd yn digwydd, pryd y caiff ei gwblhau a phwy fydd yn gwneud y gwaith.


Bydd is-gontractwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.

Bydd ein tîm ar gael i ateb unrhyw ymholiadau y gallai fod gennych hefyd. ​​

Fel landlord mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau diogelwch tenantiaid eiddo’r Cyngor ac ymwelwyr. 

Rhaid gwasanaethu eich system gwres canolog nwy unwaith y flwyddyn er mwyn eich cadw chi a’ch teulu yn ddiogel rhag gollyngiadau nwy a gwenwyn carbon monocsid.​ 

Mae gwaith gwasanaethu rheolaidd yn golygu mai anaml iawn y mae offer nwy yn methu’r archwiliad blynyddol. Fodd bynnag, pe bai offer nwy yn methu’r archwiliad, gwneir trefniadau yn y fan a’r lle i sicrhau eich diogelwch, a chaiff y gwaith atgyweirio gofynnol ei gyflawni cyn gynted â phosibl.

 

Eich apwyntiad

 

Byddwn yn anfon llythyr atoch tua phythefnos cyn dyddiad eich apwyntiad gwasanaethu nwy.

Os nad yw dyddiad eich apwyntiad yn gyfleus, yna dylech drefnu apwyntiad.

Ffoniwch y llinell apwyntiadau Gwasanaethu Offer Nwy ar: 029 2087 2087

Dewiswch opsiwn 2 i drefnu apwyntiad arall.

Sicrhewch eich bod yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd.

 

Mynediad i’ch eiddo


Mae’n rhaid i chi roi mynediad i’ch tŷ cyngor i’n peirianwyr nwy ar gyfer eich apwyntiad gwasanaethu blynyddol. 

Os nad ydych yn caniatáu iddynt gael mynediad, byddwch yn torri telerau eich Cytundeb Tenantiaeth. 

Mae ein holl beirianwyr wedi'u cofrestru â Diogelwch Nwy. Dylai’r peiriannydd sy’n galw yn eich cartref ddangos Cerdyn Adnabod Diogelwch Nwy a’i rif cofrestru.

Pan fydd y peiriannydd wedi cwblhau prawf gwasanaethu a diogelwch llwyddiannus, cewch gopi o Dystysgrif Landlord Diogelwch Nwy (CP12) i’w chadw. 

Nwy’n Goll​​​wng


Nid ydym yn gyfrifol am ganfod na chyflawni gwaith atgyweirio lle bo nwy'n gollwng. Os ydych yn arogli nwy cysylltwch â Wales and West Utilities ar 0800 111 999​.


Cofiwch: 

  • Diffoddwch y nwy wrth y mesurydd
  • Agorwch y ffenestri a’r drysau i adael y nwy allan
  • Peidiwch â defnyddio unrhyw fflam agored a pheidiwch â smygu
  • Peidiwch â gweithredu unrhyw socedau neu offer trydanol.​

 

​I’n helpu i brosesu eich atgyweiriad nodwch ar ddiwedd y ffurflen slot amser sy’n well gennych ar gyfer apwyntiad:

Dydd Llun i ddydd Gwener (8.30-12.30), (10.00-2.00) a (12.30-4.00) neu unrhyw bryd

Yn ogystal rhowch unrhyw fanylion ychwanegol a allai ein helpu i ddelio gyda'r mater. E.e. Unrhyw amgylchiadau arbennig neu ddifrod sy’n cael ei achosi.

​​


Adrodd bod angen gwaith atgyweirio

Os y cyngor sy'n gyfrifol am atgyweirio eich tŷ, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein neu os yw'n atgyweiriad argyfwng, ffoniwch C2C ar 029 2087 2087.


Byddwn yn rhoi dyddiad a slot amser i chi unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod am angen atgyweiriad. Nodwch a oes gennych slot amser sy’n well gennych pan fyddwch yn rhoi gwybod am y gwaith atgyweirio sydd ei angen. 

Y slotiau sydd ar gael yw:


​​Math o Slot

​Amserau slotiau
​AM
​8.30am - 12.30pm
​PM
​12.30pm - 4pm
​Unrhyw bryd
​8.30am - 4pm
​Mynd â’r Plant i’r Ysgol ac Oddi Yno
​10am - 2pm
 


Os yw'n bosibl, dylech gynnwys eich rhif ffôn fel y gallwn gadarnhau eich apwyntiad.

Wrth gwblhau’r ffurflen hon, sicrhewch eich bod yn dweud:

  • ​​Y slot amser sy’n well gennych,
  • Unrhyw amgylchiadau arbennig,
  • Unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi.
 
​​Wrth gwblhau’r ffurflen, rhowch wybod i ni os byddai’n well gennych ohebiaeth trwy neges destun.

Cofiwch y gallai fod rhaid i chi dalu am fethu apwyntiad os nad ydych yn canslo. Mae angen 24 awr o rybudd canslo arnom. ​

​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd