Nid yw asbestos yn beryglus os ydyw mewn cyflwr da ac nad yw’n cael ei symud.
Pan fydd asbestos yn hen neu wedi’i ddifrodi, h.y. ar ôl iddo gael ei ddrilio, ei lifio, ei sgrwbio neu ei sandio, gall ryddhau ffibrau gwenwynig i'r aer.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn esbonio’r arwyddion i gadw llygad amdanynt.
Ni ddylai asbestos gael ei roi yn eich gwastraff gardd/bwyd/ailgylchu neu gyffredinol.
Gwaredu asbestos
Gallwn drefnu casglu ychydig o asbestos cartref a all gael ei ddal yn ddiogel mewn sach arbennig.
Ffoniwch C2C ar 029 2087 2088 i drafod eich dewisiadau.
Mae 3 chasgliad y flwyddyn.
Ni all y cyngor gasglu swmp o asbestos (mwy na 600mm x 600mm) ond gall cwmnïau trwyddedig wneud hynny. Ni allwn argymell cwmni, ond sicrhewch eu bod wedi’u trwyddedu i waredu asbestos a’u bod yn gludwyr gwastraff cofrestredig.
Ewch i wefan y Ganolfan Gwybodaeth Asbestos am ragor o wybodaeth am waredu asbestos yn ddiogel.
Tai Cyngor
Rydym yn monitro ac yn rheoli asbestos mewn tai cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel. Bydd pob deunydd sy’n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da yn cael ei adael yn y fan a’r lle, a bydd ei gyflwr yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Os bydd y deunydd wedi’i ddifrodi neu’n hynod beryglus oherwydd ei leoliad byddwn yn gweithredu ar unwaith i gael gwared ohono.
Os ydych o’r farn y gallai fod asbestos sydd wedi’i ddifrodi yn eich tŷ cyngor, neu os ydych yn ystyried gwneud gwaith i wella eich cartref a allai effeithio ar ddeunydd sy’n cynnwys asbestos, rhaid i chi gysylltu â ni neu ffoniwch 029 2087 20888.
Os ydych yn gwneud unrhyw waith eich hun neu'n caniatáu i rywun arall wneud gwaith a hynny heb ganiatâd ysgrifenedig, chi fydd yn atebol am dalu costau i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau’n gysylltiedig ag asbestos.
Cofiwch na chaniateir newidiadau i isadeiledd neu adeiledd yr eiddo dan y cytundeb tenantiaeth heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.