Mae Kickstart yn gynllun cenedlaethol sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.
Bydd cyflogwyr ar draws ystod o sectorau yn cynnig lleoliadau profiad gwaith â thâl am 6 mis sydd o leiaf 25 awr yr wythnos.
Y nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor gael profiad a allai arwain at gyfleoedd tymor hwy.
Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu lleoliadau swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed sy’n cael Credyd Cynhwysol ac sy’n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor. Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid sy'n cynnwys:
- 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y cyfranogwr) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig gofynnol cyflogwr
Gall cyflogwyr wasgaru dyddiadau dechrau'r lleoliadau gwaith hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2021.
Pa gymorth a gewch chi?
Cewch gyllid gwerth £1,500 fesul lleoliad swydd ar gyfer costau sefydlu a chefnogi'r person ifanc i ddatblygu ei sgiliau cyflogadwyedd. Os yw rhywun arall yn eich helpu i wneud rhywfaint o hyn i chi, bydd yn rhaid i chi gytuno sut y byddwch yn rhannu'r arian hwn.
Mae'r trothwy o 30 o leoliadau gwaith yn cael ei ddileu; fodd bynnag, gallwch barhau i ddewis gwneud cais drwy sefydliad Kickstart Gateway fel Coleg Caerdydd a'r Fro.
Neu cysylltwch â Choleg Caerdydd a'r Fro ac ALS:
Manylion Cyswllt Kickstart ALS
Coleg Caerdydd a'r Fro - Cyfleoedd Hyfforddi a Ariennir yn Llawn
Rhagor o wybodaeth - Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro - Trosolwg ar ALS
Mae ALS Training yn un o brif ddarparwyr atebion cyflogaeth, hyfforddiant, dysgu a datblygu gyda hanes sefydledig yn y sector. Mae'r gefnogaeth a ddarparwn i'n holl gwsmeriaid, ac ymgeiswyr yn ymatebol, yn amlbwrpas ac yn effeithiol.
Fel cyflogwr, gan weithio drwy'r ALS fel eich Porth, byddwn yn darparu'r hyfforddiant ym meysydd gorfodol Sgiliau Cyflogadwyedd ac yn sicrhau, drwy ein cymorth mentora, eich bod chi a'ch ymgeisydd Kickstart yn cael profiad gwerthfawr ac yn parhau i fodloni meini prawf y grant drwy gydol y rhaglen 6 mis.
Yn ogystal, fel prif ddeiliad contract gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer Dysgu yn y Gwaith, gallwn gynnig cyngor, arweiniad a chymorth i’ch busnes ac o bosibl arian i'ch cynorthwyo gyda hyfforddiant pellach i aelodau ehangach eich tîm a'ch ymgeisydd Kickstart ar ddiwedd ei leoliad.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi cynllunio, darparu a gwerthuso ystod gynhwysfawr o atebion cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu i wasanaethu cyflogwyr a gweithwyr a'u hanghenion unigol.
Os hoffech gael rhestr arall o sefydliadau Gateway yng Nghaerdydd cysylltwch ag