Mae Kickstart yn gynllun cenedlaethol sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.
Bydd cyflogwyr ar draws ystod o sectorau yn cynnig lleoliadau profiad gwaith 6 mis sydd o leiaf 25 awr yr wythnos.
Y nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor gael profiad a allai arwain at gyfleoedd tymor hwy.
A yw'r person ifanc rydych chi'n ei gefnogi yn gymwys i hawlio Credyd Cynhwysol?
Cysylltwch â'n tîm i Mewn i Waith i weld a yw’r person ifanc yn gymwys a sut y gallech ei helpu.
A ydynt eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol?
Os oes gan y person ifanc rydych chi'n ei gefnogi hyfforddwr gwaith canolfan waith, gofynnwch iddyn nhw gysylltu drwy eu Dyddiadur Credyd Cynhwysol am arweiniad.
I gael gwybod mwy am y cynllun a sut y gallwch helpu person ifanc i gael manteisio ar y cynllun ffoniwch y Ganolfan Waith ar:
0800 328564
Sut mae proses Kickstart yn gweithio
- Anfonir manylion cyfyngedig am swydd at y person ifanc drwy neges ar eu Dyddiadur Credyd Cynhwysol (cyfrif Credyd Cynhwysol). Bydd rhybudd neges destun yn cael ei anfon at y person ifanc i'w hysbysu i edrych ar ei gyfrif.
- Mae'r person ifanc yn hysbysu ei hyfforddwr gwaith - drwy ei ddyddiadur, ffôn neu e-bost - os oes ganddo ddiddordeb yn y swydd. Mae'r anogwr gwaith yn trefnu apwyntiad i drafod ymhellach.
- Mae'r anogwr gwaith a'r person ifanc yn cytuno a yw'r swydd yn addas ac a ddylai'r person ifanc barhau i wneud cais.
- Mae'r anogwr gwaith yn hysbysu'r cyflogwr am ddiddordeb y person ifanc yn y swydd.
- Mae cyflogwr yn cysylltu â'r person ifanc i ddechrau'r broses ymgeisio a chyfweld.
Os yw'r person ifanc yn aflwyddiannus, dylai gysylltu'n ôl â'i hyfforddwr gwaith er mwyn cael ei ystyried ar gyfer cyfleoedd eraill.