Rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Leol wedi’i chyd-noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw Cymunedau ar gyfer Gwaith.
Mae Ymgynghorwyr Cyflogaeth a Mentorau Ieuenctid/Oedolion profiadol yn arbenigo mewn helpu unigolion gydag anghenion penodol.
Mae arian hefyd ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddi ac i wella sgiliau, gan roi’r cyfleoedd gorau i bobl i ddychwelyd i’r gwaith.
- Ydych chi dros 25 oed ac yn hawlio budd-dal cymwys?
- Oes gennych gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eich gwaith?
- Ydych chi’n gofalu am oedolyn neu blentyn?
- Ydych chi wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy?
- Ydych chi rhwng 16 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant?
Help a chyngor
Os felly gall ein timau roi help a chyngor arbenigol ar:
- Ysgrifennu CV
- Technegau cyfweld
- Adeiladu Hyder
- Ceisiadau ar-lein am swyddi
- Dychwelyd i’r gwaith
Hyfforddiant
Mae gennym ystod eang o gyrsiau hyfforddi ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Trwydded ADD (Awdurdod y Diwydiant Diogelwch)
- Cerdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu)
- Trac PTS (Diogelwch Trac Personol)
- Peirianwaith Bach ac Offer
- Chwarae Plant
- Cynorthwy-ydd Addysgu
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Hyfforddiant LGV gyda Thrwydded
- Gyrfa ym Maes Gofal
Help ariannol
Gallai hefyd fod arian ar gael i helpu gyda
- Gofal plant (yn ystod cyfweliad neu leoliad)
- Costau Teithio (yn ystod cyfweliad neu leoliad)
- Dillad (yn ystod cyfweliad neu leoliad)
- Cyfarpar Diogelu Personol (ar gyfer Cyrsiau neu waith Asiantaeth)
I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â ni.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru. Yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau a’r Ganolfan Byd Gwaith.
