Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer amrywiaeth o swyddi yng Nghyngor Caerdydd.
Mae swyddi gweigion rhan amser a llawn amser ar gael i’r ymgeiswyr iawn.
Os oes gennych unrhyw sgiliau iaith gymunedol, rydym yn aros i glywed gennych.
Ydych chi’n newydd i waith swyddfa neu eisiau ail-sgilio, neu awydd dechrau eich gyrfa mewn gwaith gofal? Yna gall Caerdydd ar Waith ddod o hyd i’r rôl i chi.
Mae’r swyddi’n amrywio o gymorth wyneb yn wyneb i waith gofal, yn ogystal â swyddi mewn swyddfa.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais a threfnu asesiad*, ffoniwch ni ar 029 2087 3087, ewch i
wefan Caerdydd ar WaithDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu e-bostiwch
CaerdyddArWaith@caerdydd.gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
*Bydd asesiadau’n profi sgiliau gweinyddol safonol fel rhesymu ariannol, gallu teipio a’ch arddull ar y ffôn. Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaeth. Felly, os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol cysylltwch â ni ac fe allwn drafod addasiadau gyda chi.
176893:318274.734375||500
Cysylltu â ni
2il Lawr,
Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd,
Yr Aes,
Caerdydd,
Cf10 1FL