Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mynediad cerbydau i Ganolfannau Ailgylchu

​​​​Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym pa gerbyd y byddwch yn ei gyflwyno pan fyddwch yn ymweld â chanolfan ailgylchu.
 ​​​​​​​​​​​​​​​
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu.

Mae cyfyngiadau cerbydau yn seiliedig ar:

  • swm posibl y gwastraff y gallwch ei ffitio yn y cerbyd,
  • defnydd posibl o'r cerbyd er enghraifft defnydd busnes, a
  • chyfyngiadau uchder a phwysau yn ein canolfannau.

Faniau y gallwch ddod â nhw i ganolfan




Mae'r mathau canlynol o gerbydau yn cael eu dosbarthu fel faniau hyd yn oed os mai nhw yw unig ffurf eich cartref ar drafnidiaeth, ac fe'u defnyddir at ddefnydd domestig yn unig.

Gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu Bessemer Road yn unig:


  • Faniau â phellter byr rhwng echeli
  • Faniau campio neu garafanéts
  • Cerbydau gyda chefn agored (wedi'i orchuddio neu heb ei orchuddio)
  • Cludwyr cab criw
  • Ceir heb ffenestri cefn na ffenestri cefn wedi'u duo allan
  • Ceir â mwy na 7 sedd


Mae ceir gyda threlars hefyd yn cael eu dosbarthu fel faniau.

Uchafswm uchder fan o 2m. Uchafswm maint trelat yw 2m x 2m​




Gweld telerau ac amodau Canolfannau Ailgylchu​






Ceir y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu



Mae'r cerbydau canlynol yn cael eu dosbarthu fel ceir:

  • ​Ceir safonol
    Rhaid cael ffenestri cefn. Dim trelars ynghlwm. 

  • SUVs
        Heb gefn agored. 

  • Ceir mawr
        Uchafswm o 7 sedd, gyda dim ond y rhes olaf o seddi wedi'u plygu.

  • Unrhyw gerbyd wedi'i addasu at anabledd​






Cerbydau na allwch ddod â nhw i Ganolfan Ailgylchu



Ni chaniateir y cerbydau hyn ar y safle yn ein Canolfannau Ailgylchu:

  • Faniau pen uchel
  • Faniau pen canolig
  • Faniau hirion
  • Cerbydau tipio



Os ydych yn fusnes defnyddiwch ein Canolfan ailgylchu fasnachol​.

© 2022 Cyngor Caerdydd