Ein nod yw cynnig opsiwn cost-effeithiol ar gyfer busnesau bach a chanolig i waredu deunydd ailgylchu a gwastraff masnachol.
Bydd hyn yn helpu i gynyddu’r gwastraff masnachol sy’n cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi drwy annog masnachwyr i ailgylchu, a bydd hefyd yn helpu i leihau defnydd anghyfreithlon o ganolfannau ailgylchu fel llefydd i waredu gwastraff masnachol.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth?
Mae’r gwasanaeth ar gael i bob busnes masnachol, ond mae wedi’i dargedu’n bennaf at fusnesau bach a chanolig, y diwydiant adeiladu, landlordiaid a busnesau lleol.
Dim ond yn safle Clos Bessemer y gallwch dalu â cherdyn debyd neu gredyd.
Pa wastraff a deunydd ailgylchu sy'n dderbyniol?
- Gwastraff Cyffredinol
- Ailgylchu Cymysg
- Gwastraff gardd
- Seiliau Caled
- Pren
- Cardfwrdd
- Bwrdd Plastr
- Metel
Anogir masnachwyr i wahanu cymaint o wastraff masnachol â phosibl cyn dod i’r Ganolfan Ailgylchu Masnachol.
Faint mae’n ei gostio?
Gwastraff Cyffredinol | £145 | 250kg - £36.25 |
Gwastraff Gwyrdd/Gardd | £60* | 250kg - £15 |
Rwbel caled | £40* | 250kg - £10 |
Olew Mwyn | £400 | £250kg - £100 |
Coed | £85* | 250kg - £21.25 |
Bwrdd plaster | £100* | 250kg - £25 |
Cardfwrdd | Am ddim* | Am ddim |
Metel sgrap | Am ddim*
| Am ddim |
Offer Masnachol | £100 (fesul uned) | |
Offer Domestig | £45 (fesul uned) | |
Teiars | £105* | 250kg - £26.25 |
Gwasanaeth Pont pwyso Cerbyd | £20 fesul cerbyd | |
*Gall y costau newid yn unol â gwerthoedd y farchnad
Nid yw’r prisiau’n cynnwys TAW.
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth
Cam 1
Pwyso ar y Bont Dafol a datgan pa fath o wastraff sydd gennych.
Cam 2
Mynd i’r man gollwng ar gyfarwyddyd y staff a dadlwytho (caiff eich gwastraff ei archwilio i sicrhau eich bod yn dadlwytho’r gwastraff a ddatganwyd gennych).
Cam 3
Parhau i'r man pwyso a phrosesu gwaith papur.
Cam 4
Talu am y gwastraff a ddadlwythwyd gyda cherdyn debyd neu gredyd cyn gadael y safle.
Fel masnachwr bydd yn ofynnol i chi gael trwydded cludo gwastraff.
Dysgwch am
rwymedigaethau cyfreithiolDolen yn agor mewn ffenestr newydd a gofynion cyfreithiol i sicrhau eich bod yn gwaredu gwastraff yn gywir. Ceir
awgrymiadau defnyddiolDolen yn agor mewn ffenestr newydd hefyd yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Amseroedd Agor
7am - 12.30pm 1pm - 3.30pm | 7am - 12.30pm | Ar gae |
Mae’r ganolfan wedi cau ar wyliau banc.
Mynediad olaf i’r ganolfan 15 munud cyn iddi gau.
Sut i ddod o hyd i ni
174822:316433.3359375|wastedepots|500
Clos Bessemer
Caerdydd
CF11 8XH
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Masnachol, cysylltwch â ni.
Ffon: 29 2087 2087