Bydd y ganolfan ailgylchu symudol ar gau dros fisoedd y gaeaf. Archebwch slot yng nghanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby neu Clos Bessemer.
Nid oes mynediad cerdded i mewn a beicio ar gael ar y safle hwn.
Nid oes angen i chi gadw lle i ymweld â'r ganolfan ailgylchu symudol, ond bydd angen i chi ddangos prawf eich bod yn preswylio yng Nghaerdydd wrth gyrraedd.
Mae'r ganolfan ailgylchu symudol ar gyfer ceir yn unig. Ni dderbynnir faniau.
Ni dderbynnir faniau. Os oes fan gennych, bydd gofyn i chi archebu slot yng Nghlos Bessemer.
Pa eitemau allwch chi eu cludo yno?
Gall yr eitemau rydym yn eu derbyn yn y ganolfan ailgylchu symudol newid yn dibynnu ar y lleoliad.
Gallwch ddod â’r canlynol:
- pren,
- gwastraff gardd,
- cardfwrdd,
- metel,
- plastigau caled,
- offer trydanol gwastraff bach (ac eithrio setiau teledu),
- batris,
- Cartonau Tetra Pak,
- tecstilau, a
- llyfrau, CDs a DVDs.