Bydd angen i chi archebu slot bob tro y byddwch yn ymweld.
- 1 ymweliad y dydd,
- 26 ymweliad y flwyddyn ar gyfer ceir
- 10 ymweliad y flwyddyn ar gyfer faniau
Os byddwch yn dod mewn car, gallwch ddefnyddio’ch dyraniad yn hyblyg ond ni allwch ddod fwy nag unwaith y diwrnod.
Os ydych yn ymweld mewn fan neu gar â threlar, cewch drefnu dim ond un ymweliad y mis.
Cerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu
Mae canolfannau ailgylchu yn
Ffordd Lamby a
Chlos Bessemer.
Dydyn ni ddim yn derbyn bagiau cymysg o wastraff cyffredinol yn ein canolfannau ailgylchu. Dylech roi'r math hwn o wastraff allan yn eich bin du neu fagiau streipiau coch i'w casglu o ymyl y ffordd.
Os defnyddiwch chi'r holl
wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd sydd ar gael a'n
gwasanaeth casglu hylendid ar gyfer cewynnau a gwastraff anymataliaeth, bydd hyn yn lleihau faint o wastraff cyffredinol rydych chi'n ei gynhyrchu.
Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch yn eich cadi bwyd a'ch bagiau ailgylchu. Os na allwch ymdopi â'ch lwfans gwastraff cyffredinol, rydym yn cynnig
casgliad ychwanegol â thâl, neu gallwch ddefnyddio contractwr gwastraff preifat. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredigDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Gallwch fynd â'r mwyafrif o eitemau i'r ddwy ganolfan. Gwiriwch cyn ymweld.
- Batris
- Beiciau
- Batris ceir
- Cardfwrdd
- Carpedi
- Cyfrifiaduron
- Tiwbiau fflworoleuol a bylbiau golau
- Oergelloedd neu Rhewgelloedd
- Cemegau gardd a'r cartref - rhaid labelu'r rhain yn glir
- Gwastraff gardd
- Poteli nwy
- Plastigau Caled
- Eitemau trydanol mawr, fel peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi ac ati
- Mattresi
- Cyfryngau (llyfrau a CDs)
- Ffonau symudol
- Paent
- Bwrdd plastr (rhaid ei dorri i fyny)
- Rwbel (gan gynnwys pridd) - uchafswm o 6 o fagiau 20KG Rhaid tipio bagiau i'r sgip, ac yna mynd â nhw adref.
- Metel sgrap
- Dalennau gwydr
- Offer trydanol bach, fel tegellau, tostwyr, consolau gema
- Teledu a Sgrinau
- Tetra Pak
- Tecstilau a sgidiau
- Teiars (Ffordd Lamby yn unig)
- Ffenestri UPVC (Ffordd Lamby yn unig)
- Hen olew ceir
- Olew llysiau/coginio
Gwastraff na ellir ei ailgylchu
Os oes gennych eitemau na allwn eu hailgylchu gallwch ddod â nhw i'r safle.
Cyn eu rhoi yn y sgip bydd angen i wasanaethwyr y safle gadarnhau nad oes modd ailgylchu eich eitemau. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio bagiau clir neu gynhwysydd i helpu gyda'r broses hon. Os oes angen i chi ddefnyddio bagiau i gludo'r eitemau, bydd angen i chi eu hagor i ddangos i'n staff. Ni chewch ddefnyddio bagiau gwyrdd y Cyngor.
Mae enghreifftiau o'r deunydd y gellir ei roi yn ein sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cynnwys:
- Gwastraff anifeiliaid anwes gormodol e.e. gwasarn cathod, sarn anifeiliaid
- Bleindiau
- Gwely difan
- Celfi gardd
- Polystyren
- Pecynnu ffilm plastig tenau
- Drychau
- Soffas a chadeiriau breichiau
- Papur Wal
- Eitemau babi e.e. seddau car, cadeiriau uchel, pramiau neu cadeiriau gwthio
- Tapiau fideo neu casét
Holwch ein staff os nad ydych chi’n siŵr. Os na fyddwn yn cynnig gwasanaeth ailgylchu i waredu eitem, byddwch yn gallu ei roi yn y sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu.