Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyflwyno gwybodaeth

​Os ydych chi wedi derbyn ffurflen yn gofyn am wybodaeth gan y tîm gorfodi gwastraff, bydd angen chi ei llenwi a’i dychwelyd atom.


Mae’n bosibl y byddwn yn anfon ffurflen atoch os:


  • ydym wedi dod o hyd i’ch ailgylchu neu wastraff ar y briffordd ar y diwrnod / amser anghywir, neu 

  • fod eich biniau / bagiau / sachau yn cynnwys yr eitemau anghywir.


Ymholiad safonol ydy hyn.


Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn anfon ffurflen atoch os gwelwn ni rywun yn sbwriela o’ch cerbyd; ymholiad Cerbyd ydy hyn. 


Os bydd cyflwr eich gardd flaen neu ardd gefn, neu dir preifat arall yn dechrau cael effaith negyddol ar yr ardal byddwch yn derbyn hysbysiad A215 gennym.  


Sicrhewch fod gennych eich cyfeirnod wrth law a rhowch yr holl wybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani. 


Cofnodir y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar y ffurflenni hyn ac fe’i defnyddir fel tystiolaeth. 


Dychwelir eich ffurflen wedi’i llenwi i’r swyddog sy’n gyfrifol am eich achos. Gallai fod angen iddo gysylltu â chi am fwy o wybodaeth. 


Ni all swyddogion drafod yr achos ymhellach gyda chi nes y byddwch wedi rhoi’r holl wybodaeth y maent wedi gofyn amdani. 

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd