Gallwch dalu am gasgliad gwastraff ychwanegol un tro yn yr amgylchiadau canlynol:
- os oes weithiau gennych ormod o sbwriel i’w roi yn eich bin du, neu fagiau du os ydych chi’n eu defnyddio, i'w gasglu o ymyl y ffordd, neu
- os ydych yn symud allan o’ch eiddo ac angen i’ch gwastraff ychwanegol gael ei symud.
Am ddyfynbris cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088. Bydd swyddog yn cysylltu â chi gyda dyfynbris.
Rhowch:
- eich cyfeiriad, a
- rhestr o’r union eitemau yr hoffech iddynt gael eu casglu.
Rhowch wybod i ni os hoffech i ni gasglu eich gwastraff erbyn dyddiad penodol.
Byddwn yn ceisio ei gasglu erbyn y dyddiad hwnnw ond mae’n rhaid i chi drefnu’r casgliad o leiaf 48 awr o flaen llaw.
Cofiwch, os ydych yn byw yng Nghaerdydd gallwch ddefnyddio ein
Canolfannau Ailgylchu am ddim i ailgylchu ystod o eitemau.
Talu wrth daflu
Y gost yw £5 fesul bag.
Gallwn gasglu lleiafswm o 5 bag a dim mwy nag 20 bag fesul casgliad.
Costau talu wrth daflu
5
| £25
|
6
| £30 |
7
| £35
|
8
| £40
|
9
| £45
|
10
| £50
|
11
| £55
|
12
| £60
|
13
| £65 |
14
| £70
|
15
| £75
|
16
| £80
|
17
| £85
|
18
| £90
|
19
| £95
|
20
| £100
|