Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strategaeth

​​​​​​​​​Mae ein strategaeth ailgylchu ar gyfer y 3 blynedd nesaf yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda thrigolion a busnesau ar draws y ddinas i reoli gwastraff Caerdydd.

Mae angen i bob un ohonom wneud newidiadau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% sy’n rhaid i ni ei gyrraedd fel dinas erbyn 2025.

Newidiadau i gasgliadau ymyl y ffordd



Y prif newidiadau i aelwydydd yw:

  • Casgliad ailgylchu wedi ei ddidoli: bydd ailgylchu yn cael ei ddidoli i 3 chynhwysydd.
  • Bydd mwy o eitemau'n cael eu casglu o ymyl y ffordd, gan gynnwys eitemau trydanol bach, Pecynnau Tetra a phodiau coffi.




Rydym yn adolygu casgliadau gwastraff cyffredinol Caerdydd i ystyried gwahanol feintiau bin, amlder y casglu, a'u haddasrwydd. Byddwn ni hefyd yn treialu ffyrdd o wella casgliadau ailgylchu mewn blociau fflatiau a HMOs (Tai Amlfeddiannaeth).

Newidiadau ychwanegol



Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

  • casgliadau ailgylchu ar wahân ar gyfer yr holl fusnesau sy’n derbyn gwasanaeth masnach Cyngor Caerdydd,
  • annog gwaith atgyweirio, ailddefnyddio a lleihau gwastraff ledled y ddinas drwy gynyddu gweithio mewn partneriaeth,
  • dod â chyfleusterau ailgylchu i'r cymunedau lleol,
  • cynnig mwy o addysg ar ailgylchu o ddrws i ddrws mewn ardaloedd perfformiad ailgylchu gwael,
  • glanhau’r stryd ar yr un diwrnod a gorfodaeth lymach ar ôl casgliadau.

Rheswm dros y newidiadau


  • Mae 24 miliwn o fagiau gwyrdd untro yn cael eu defnyddio bob blwyddyn ar gost o bron i £1miliwn. Mae angen i ni symud at gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.
  • Mae 30% o'r eitemau mewn bagiau ailgylchu gwyrdd yn mynd i'r gwaith Troi Gwastraff yn Ynni gan eu bod yn y bag anghywir. Mae angen i ni wella safon ein hailgylchu.
  • Gallai bron i 50% o wastraff biniau du gael ei ailgylchu.
  • Rhaid i ni gyrraedd y targed ailgylchu o 70% erbyn 2025 ac amcanion Caerdydd Un Blaned Caerdydd.
  • I wella glendid y strydoedd ledled Caerdydd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yn cymryd peth amser i ni gyflwyno'r newidiadau hyn. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth cyn cyflwyno'r newidiadau.

Cael gwybodaeth am wasanaethau ailgylchu yng Nghaerdydd​.

​ ​

Ymateb y cyhoedd i'n hymgynghoriad ar y strategaeth wastraff

​Cynhaliwyd ymgynghoriad 6 wythnos gennym yn ystod Gwanwyn 2022. Ymatebodd 3,305 o bobl. Dyma uchafbwyntiau'r canlyniadau:


 
  • Roedd 85% yn cytuno bod angen i Gaerdydd wella ansawdd y deunyddiau sy’n cael eu casglu
  • Roedd 48.8% yn cytuno gyda gwahanu ailgylchu i dri chynhwysydd.
  • Gofynnodd 32% am opsiynau gwahanol i ardaloedd gwahanol o'r ddinas
  • Gofynnodd 19.2% i ystyried casgliad ymyl y ffordd llawn.​
  • Mae 76.9% o drigolion yn defnyddio canolfan ailgylchu a 91% yn dweud bod y lwfans o 28 ymweliad y flwyddyn yn ddigonol.
  • Gofynodd 57.3% am fwy o ganolfannau ailgylchu yng Nghaerdydd, a (51.7%) am fwy o gyfleoedd i allu rhoi eitemau i’w hailddefnyddio.
  • Mae 88.8% â diddordeb mewn casgliad ail-ddefnyddio ar gyfer eitemau cartref mawr.
  • 83.9% yn cytuno y dylai'r Cyngor fod yn lleihau ei effaith plastigau untro, drwy symud i gynwysyddion ailgylchu amldro.
  • Hoffai 72.1% weld mwy o barthau ail-lenwi ledled Caerdydd.
  • Mae 85% yn cytuno bod y cyngor yn symud i gerbydau trydan.
  • Mae 35.1% yn teimlo bod y cyngor yn hysbysu trigolion ynghylch sut a beth i'w ailgylchu.







Roedd y rhai ymatebodd yn awgrymu bod angen i ni:


  • wella’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol eraill,
  • dosbarthu mwy o daflenni / llythyrau i aelwydydd,
  • gweithio gyda phlant, gan gynnwys ysgolion a chlybiau ieuenctid, a
  • gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr i helpu i rannu negeseuon.





Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​



Lawrlwythwch Strategaeth Ailgylchu Caerdydd (875MB PDF)​​​​​​​​​​​External link opens in a new window


​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd