Cynllun peilot yw hwn, i'w gwneud yn haws i breswylwyr ailgylchu'r eitemau llai na ellir eu casglu o ymyl y ffordd:
- eitemau trydanol bach ,
- batris cartref,
- llyfrau, CDs a DVDs,
- cartonau Tetra Pak, a
- cetris inc.
Nawr gallwch fynd â'r eitemau bach hyn i'w hailgylchu yn y 5 canolfan sy'n cymryd rhan, sef:
- Grangetown,
- Yr Eglwys Newydd,
- Llaneirwg,
- Trelái a Chaerau, a
- Powerhouse.
Ni allwn dderbyn tapiau VHS a casét yma, nac offer mwy o faint fel sugnwyr llwch, ffyrnau microdon neu setiau teledu.