Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaeth Didoli Sachau

​​​​​​​​​
Rydym yn parhau i dreialu ffordd newydd o gasglu gwastraff ailgylchu ar draws 4000 o eiddo yng Nghaerdydd. Diolch am gymryd rhan ac am eich adborth hyd yn hyn. Mae’r adborth, a'r data sy’n deillio o gasgliadau, yn ein helpu i ddatblygu cynnig i ehangu'r ffordd newydd hon o gasglu gwastraff ailgylchu ledled y ddinas.

Mae ansawdd y deunydd wedi gwella'n fawr, gyda lefelau halogi o lai na 5%.  Mae gan y bagiau gwyrdd ailgylchu ar draws gweddill y ddinas lefel halogi o 30%.
Deallwn fod angen gwella'r cynwysyddion, er enghraifft drwy roi sachau gyda phwysau trymach. 
 
Rydym hefyd wedi dysgu bod angen i ni ystyried defnyddio gwahanol gerbydau ar gyfer casgliadau. Efallai y byddwch yn gweld amrywiaeth o gerbydau yn casglu eich gwastraff ailgylchu. Os caiff gwastraff ailgylchu ei gasglu gyda'i gilydd, caiff ei brosesu ar wahân i ddeunydd bagiau ailgylchu gwyrdd. 
 
Dylech barhau i ddefnyddio'ch sachau a'ch cadi os gwelwch yn dda.​


​​
Byddwch yn defnyddio sach goch ar gyfer cynwysyddion. Mae hyn ar gyfer eitemau fel poteli plastig, tybiau a hambyrddau a chaniau a thuniau.​

Ie, rhowch yn eich sach goch


  • Poteli toiledau plastig
    Fel siampŵ, cyflyrydd a photeli swigod bath.
  • ​Poteli glanhau plastig
    Fel poteli cannydd a chwistrellau sbardun.
  • Poteli diodydd plastig
    Fel llaeth, dŵr a photeli diodydd meddal.
  • Cynwysyddion plastig
    ​Fel pecynnau ffrwythau, potiau iogwrt, a hambyrddau cacen a myffin.
  • ​Cartonau a chaeadau tecawê plastig.
  • Erosolau megis chwistrellau persawr.
  • Caniau diodydd metel
    Fel caniau cwrw a diodydd meddal.
  • Tuniau bwyd metel
    Fel ffa a thuniau cawl.
  • Cartonau ffoil a ffoil glân.

Na, peidiwch rhoi yn eich sach goch

  • Bagiau siopa plastig a phlastigau meddal
    Megis cling ffilm, seloffen, prydau parod neu gaeadau pot iogwrt, bagiau bara, deunydd lapio caws, ffilmiau plastig.
  • Pecynnau creision.
  • Pacedi bwyd anifail.
  • Pecynnau pothell plastig (dyna'r deunydd pacio plastig a ddefnyddir ar gyfer tabledi a meddyginiaethau).
  • Brwsys dannedd neu diwbiau brwsh dannedd.
  • Raseli neu lafnau rasel.
  • Tanwyr nwy gwag.
  • Blychau nwy gwag.
  • Plastigau caled, fel teganau plant.
  • P​otiau planhigion.
  • Cynwysyddion Tupperware​.
Byddwch yn defnyddio sach las ar gyfer papur a chardfwrdd.

Ie, rhowch yn eich sach las


  • Cerdyn.
  • Blychau cardfwrdd.
  • Cartonau wyau.
  • Tiwbiau rholio toiledau.
  • Blychau grawnfwyd.
  • Blychau past dannedd.
  • Papur.
  • Papurau newydd.
  • Cylchgronau.
  • Amlenni - gyda neu heb ffenestri.
  • Llythyrau.
  • Papur argraffydd.
  • Papur wedi'i rwygo.

Na, peidiwch rhoi yn eich sach las

  • Cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak.
  • ​Polystyren.
  • Unrhyw ffilm neu ddeunydd pacio plastig.
  • Papur Wal.
  • Papur lapio.
  • Hancesi Papur.
  • Tyweli papur.
  • Rholyn cegin​.
Byddwch yn defnyddio cadi glas ar gyfer eich poteli a'ch jariau gwydr.

Ie, rhowch yn eich cadi glas​


  • Poteli gwydr
    Fel poteli cwrw, gwin a diod meddal.
  • Jariau gwydr
    Fel bwyd babanod a jariau saws.

Na, peidiwch rhoi yn eich cadi glas

  • Cerameg neu tsieina.
  • Gwydrau yfed.
  • Cwareli gwydr.
  • Bylbiau golau.
  • ​Pyrex.
  • Gwydr wedi torri.


Eich hen gadi gwydr

Efallai eich bod wedi bod yn rhan o'r cynllun peilot casglu poteli a jariau gwydr ar wahân, yn 2016. Os oeddech chi, efallai y bydd gennych hen gadi gwydr glas yn eich eiddo.

Byddwn yn cyflwyno cadi gwydr newydd i chi, sydd wedi'i gynllunio yn seiliedig ar adborth gan y peilot. Mae'n dal dŵr, ac ychydig yn fwy.

Gellir cadw eich hen gadi a'i roi allan i'w gasglu gyda'ch cadi newydd os oes gennych boteli a jariau gwydr ychwanegol.

Gallwch hefyd ei adfeddiannu i'w ddefnyddio o amgylch eich cartref neu'ch gardd. Gallwch hefyd fynd ag ef i'w ailgylchu mewn canolfan ailgylchu.​


  • Gellir defnyddio eich sachau a'ch cadi gwydr i gyd eto. Bydd angen i chi eu dychwelyd i’ch eiddo erbyn 9am drannoeth wedi’r casgliad.

  • Ysgrifennwch eich cyfeiriad ar eich sachau a'ch cadi gwydr. Rydym wedi darparu label i chi wneud hyn ar eich sachau. Mae hyn fel eich bod yn gwybod pa un yw eich un chi ar ôl iddynt gael eu casglu. Gallwch wneud hyn mewn unrhyw ffordd. Awgrymwn ddefnyddio feiro marcio neu baent. Gallwch hyd yn oed brynu sticeri a labeli o siopau, ond ni fyddem yn gallu rhoi unrhyw sticeri neu labeli newydd os byddant yn mynd ar goll.

  • Rinsiwch eich ailgylchu cyn ei roi yn eich sachau neu'ch cadi, er mwyn helpu i'w cadw'n lân.

  • Bydd gan eich sachau lid Felcro. Rhowch y caead i lawr pan gânt eu rhoi ar y palmant i'w casglu, er mwyn cadw'r ailgylchu o fewn y sachau.

  • Gwasgwch eich poteli plastig a chaniau tun i lawr i wneud lle yn eich sachau.

Sachau a chadi newydd ac ychwanegol




Gellir gofyn am sachau newydd a sachau ychwanegol drwy gysylltu â C2C 029 2087 2088. Maen nhw am ddim.

Ni allwch archebu'r rhain nes bod y peilot wedi dechrau.

Rydym yn gofyn i drigolion ar y peilot ddefnyddio eu sachau am ychydig wythnosau, cyn gofyn am sachau ychwanegol. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais.​
Efallai y byddwch yn gweld amrywiaeth o gerbydau yn casglu eich gwastraff ailgylchu. 

Os caiff gwastraff ailgylchu ei gasglu gyda'i gilydd, caiff ei brosesu ar wahân i ddeunydd bagiau ailgylchu gwyrdd. ​
Mae'r cynllun peilot hwn yn cael ei gynnal fel rhan o'n Strategaeth Gwastraff ddrafft ar gyfer 2021-25, i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, a dod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.

Rydym am wella ansawdd ailgylchu, yn ogystal â chael gwared ar y 24 miliwn o fagiau gwyrdd untro a ddarperir i aelwydydd eu defnyddio bob blwyddyn.

Bydd y peilot yn ein helpu i ddeall a yw ansawdd yn gwella, y math o eitemau y mae preswylwyr yn eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd ac a yw hwn yn gasgliad y gallem ei weithredu ledled y ddinas. ​
​​​​
Darllen canlyniadau arolwg y cynllun ailgylchu peilot ar wahân ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
 


​​

​​


© 2022 Cyngor Caerdydd