Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, mae'r fan Tecawê yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i chi ailgylchu deunyddiau nad ydynt yn cael eu casglu'n rheolaidd wrth ymyl y ffordd, heb orfod archebu slot mewn canolfan ailgylchu.
Gallwch gael gwared ar:
- decstilau neu ddillad,
- eitemau trydanol bach, er enghraifft microdonnau, tostwyr, ffonau symudol,
- sosbenni a phadelli
- cerameg
- llestri
- CDs a DVDs
- llyfrau, a
- chartonau Tetra Pak.
Lle gallwch ddod o hyd i'r fan
Lleoliadau Fan Tecawê
Dydd Sadwrn 19 Awst 10am tan 3pm
| Canolfan Hamdden Trem y Môr, Grangetown
|
Dydd Sadwrn 16 Medi 10am tan 3pm
| Canolfan Hamdden y Tyllgoed, y Tyllgoed
|