O fis Chwefror 2023, ni fyddwch yn gallu archebu bagiau gwyrdd i'w dosbarthu atoch fwyach. Os oes angen bagiau ailgylchu arnoch, byddwch yn gallu eu casglu o stocwyr lleol.
Ein nod yw darparu pob archeb bag ailgylchu gwyrdd a osodwyd cyn yr amser hwn. Os nad ydych wedi derbyn eich bagiau erbyn dydd Mawrth 28 Chwefror bydd angen i chi eu casglu o’ch stocwyr lleol yn lle hynny.
Ni fydd uchafswm o fagiau y gallwch eu casglu mwyach, ond bydd hyn yn ôl disgresiwn y stocwyr.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cynllun casglu â chymorth, byddwch yn derbyn darpariaeth o 2 rolyn o fagiau ailgylchu bob 3 mis.