Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Compostio

​​Nid yw Cyngor Caerdydd yn gwerthu biniau compost, abwydfeydd na chasgenni dŵr mwyach. Os hoffech chi ddechrau compostio gartref, gallwch brynu’r eitemau hyn o siopau nwyddau haearn a chanolfannau garddio.​
  • ​Gallwch brynu bin compostio neu greu un eich hun. Sicrhewch fod gan y bin gaead i atal y compost rhag llenwi â dŵr pan fydd hi'n bwrw glaw. 
  • Rhowch eich toriadau gardd y gellir eu compostio a’ch gwastraff bwyd i’w gompostio, fel pilion, plisgyn wyau a bagiau te, yn y bin compost​.
  • Bydd taenu rhywfaint o gompost parod arno yn cyflymu’r broses. Gallwch hefyd brynu nwyddau i gyflymu’r broses mewn canolfannau garddio.
  • Cadwch y pentwr compostio yn llaith; dylai fod yn damp wrth ei gyffwrdd, ond ddim yn wlyb.
  • Gadewch y pentwr am tua wythnos, bydd y compost yn dechrau pobi a chynhesu. Mae hyn yn rhan o’r broses bydru naturiol.
  • Ychwanegwch aer i’r pentwr drwy ei droi â fforch ardd.
  • Bydd y pentwr yn lleihau. Mae hyn yn arwydd da bod compost yn cael ei ffurfio. Os bydd y compost yn dechrau mynd yn seimlyd, ychwanegwch gardfwrdd gan y bydd yn ychwanegu ffibr.
  • Os cymysgwch y pentwr bob wythnos, dylai fod yn barod mewn tua deufis. Os na throwch y cymysgedd gall gymryd hyd at flwyddyn i ffurfio compost. 
​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd