Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Help gyda rhoi eich bagiau a’ch biniau allan

Os oes angen help arnoch gyda chyflwyno eich bagiau ailgylchu a gwastraff, eich biniau neu’ch cadi bwyd, gallwch wneud cais am gasgliad cofnod.

Er mwyn gwneud cais am wasanaeth casgliad cofnod ffoniwch C2C ar 029 2087 2088 a byddwn yn cymryd eich manylion.

Bydd swyddog yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau. 
Bydd angen iddo ddod i'ch eiddo i sicrhau y bydd casgliadau'n ddiogel i'n criwiau. ​Efallai y gofynnir i chi hefyd a fyddai symud i wasanaeth casglu bagiau yn eich helpu i gyflwyno eich ailgylchu a'ch gwastraff ar y palmant i'w casglu.

Ni all ein criwiau fynd i mewn i ffin mewnol eich eiddo i gasglu eich gwastraff, ac ni allwn gynnig casgliadau cofnod i breswylwyr sy'n defnyddio 
biniau cymunedol.

Os cewch eich cymeradwyo ar gyfer y gwasanaeth, bydd yn dechrau ar unwaith. ​
Caiff y gwasanaeth ei adolygu bob 2 blynedd, a byddwch yn derbyn llythyr ar ôl 2 blynedd yn gofyn a oes angen y gwasanaeth arnoch o hyd. Os na fyddwch yn ymateb, ni fyddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyach ond gallwch ofyn am asesiad newydd ar unrhyw adeg.

Casgliadau a fethwyd ​

Os ydych wedi'ch cofrestru i gael casgliad cofnod (cynllun casglu â chymorth) a’n bod ni’n methu eich biniau, rhowch wybod i ni o fewn 48 awr. 




Dosbarthiad bagiau


Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliad cofnod, byddwn yn dosbarthu bagiau gwastraff bwyd i chi bob 3 mis. 

Os ydych ar y cynllun ailgylchu wedi’i wahanu, gallwch archebu sachau newydd ar-lein​

Os ydych yn defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd, byddwn yn eu dosbarthu bob 3 mis. 

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd