Os oes angen help arnoch gyda chyflwyno eich bagiau ailgylchu a gwastraff, eich biniau neu’ch cadi bwyd, gallwch wneud cais am gasgliad cofnod.
Er mwyn gwneud cais am wasanaeth casgliad cofnod ffoniwch C2C ar 029 2087 2088 a byddwn yn cymryd eich manylion.
Bydd swyddog yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau. Bydd angen iddo ddod i'ch eiddo i sicrhau y bydd casgliadau'n ddiogel i'n criwiau. Efallai y gofynnir i chi hefyd a fyddai symud i wasanaeth casglu bagiau yn eich helpu i gyflwyno eich ailgylchu a'ch gwastraff ar y palmant i'w casglu.
Ni all ein criwiau fynd i mewn i ffin mewnol eich eiddo i gasglu eich gwastraff, ac ni allwn gynnig casgliadau cofnod i breswylwyr sy'n defnyddio
biniau cymunedol.
Os cewch eich cymeradwyo ar gyfer y gwasanaeth, bydd yn dechrau ar unwaith. Caiff y gwasanaeth ei adolygu bob 2 blynedd, a byddwch yn derbyn llythyr ar ôl 2 blynedd yn gofyn a oes angen y gwasanaeth arnoch o hyd. Os na fyddwch yn ymateb, ni fyddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyach ond gallwch ofyn am asesiad newydd ar unrhyw adeg.
Casgliadau a fethwyd
Os ydych wedi'ch cofrestru i gael casgliad cofnod (cynllun casglu â chymorth) a’n bod ni’n methu eich biniau, rhowch wybod i ni o fewn 48 awr.
Dosbarthiad bagiau
Byddwn yn dechrau dosbarthu bagiau ailgylchu gwyrdd a bagiau gwastraff bwyd i eiddo sydd wedi eu cofrestru ar gyfer y cynllun casglu â chymorth ym mis Ebrill.
Byddwn yn darparu 2 rholyn o fagiau ailgylchu gwyrdd a 2 rholyn o fagiau gwastraff bwyd bob 3 mis.