Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer eiddo preswyl yn unig. Ewch i Gwastraff Masnach Caerdydd ar gyfer ymholiadau masnachol.
Os oes gennych eitem yn y cartref sy’n rhy fawr i chi ei chyflwyno i ganolfan ailgylchu, gallwch drefnu i ni ei chasglu o'ch eiddo.
Eitemau rydym yn eu casglu
Mae'r deunyddiau a gasglwn am ddim yn dibynnu ar argaeledd y farchnad ailgylchu ac ansawdd yr eitemau.
Gall yr eitemau y gallwn eu casglu am ddim newid heb rybudd.
Yn gyffredinol rydym yn casglu eitemau fel y canlynol am ddim:
- offer trydanol mawr,
- fframiau a ffenestri UPVC,
- eitemau metel,
- nwyddau gwyn,
- eitemau wedi eu gwneud o bren, MDF neu laminiad
Gallwn gasglu rhai eitemau eraill am isafswm cost o £12.50, gan gynnwys:
- carpedi,
- eitemau ceramig, teils neu garreg,
- gwaelod gwelyau difán,
- soffas a chadeiriau breichiau,
- matresi ‘memory foam’ neu rai â sbrings,
- dodrefn wedi eu gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr, a
- phlastigau caled.
Eitemau na allwn eu casglu
Ymhlith yr eitemau na allwn eu casglu mae:
- offer trydanol bach,
- pianos,
- asbestos,
- gwastraff gardd,
- pridd a rwbel, a
- beiciau.
Ewch i'n A-Y o ailgylchu i ddysgu sut i gael gwared ar eitemau nad ydym yn eu casglu.
Trefnu casgliad
Gallwch archebu uchafswm o 6 eitem.
Gwnewch yn siŵr bod casglu'r eitem hon yn gwbl angenrheidiol, a’ch bod yn ei roi yn y lleoliad a nodir yn eich archeb.
Loading Bulky Waste Collections.
Hefyd gallwch drefnu casglu eitem swmpus:
Gallwch hefyd trefnu ymweliad â chanolfan ailgylchu ar-lein.
Os ydych chi eisiau defnyddio cwmni allanol, gwnewch hynny o'n cyflenwr cludo gwastraff cofrestredig i sicrhau eu bod yn ei waredu'n gyfreithlon.
Newid eich archeb
Os hoffech newid neu ganslo eich archeb, mae angen i chi gysylltu â C2C ar 029 2087 2088.
Gallwch ganslo eich archeb hyd at 3 diwrnod gwaith cyn y casgliad. Os yw'n bosibl, rhowch wybod i ni o leiaf 24 awr ymlaen llaw.
Canslwch eich archeb â thâl 3 diwrnod gwaith cyn y casgliad i dderbyn ad-daliad.