Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth os ydw i'n byw mewn fflat

​​​Gallwn ni gynnig canllawiau cyffredinol ar gyfer fflatiau sydd â chasgliad gwastraff cyngor, ond mae pob fflat yng Nghaerdydd yn wahanol felly bydd eich trefniadau casglu yn dibynnu ar sut y caiff eich adeilad ei reoli.

Bydd nifer dethol o fflatiau yn cymryd rhan mewn treial c​​asgliadau ailgylchu ar wahân mewn fflatiau​​​​​.

Sut mae casgliadau ailgylchu a gwastraff yn gweithio

Cesglir deunydd ailgylchu unwaith yr wythnos. Mwy o fanylion am beth sy'n mynd yn eich bag ailgylchu.

Rhowch eich bagiau ailgylchu yn eich bin gwyrdd cymunedol.

Peidiwch â rhoi bagiau du yn eich bin gwyrdd cymunedol. Ni fyddwn yn casglu ailgylchu sy'n gymysg â gwastraff cyffredinol.

Gallwch gasglu bagiau ailgylchu gan eich cyflenwr lleol, neu eu harchebu ar-lein. Archebu mwy o fagiau a chadis. Os ydych yn byw mewn fflat a bod gan eich adeilad wasanaeth porthor, gwiriwch a yw’n stocio bagiau ailgylchu cyn archebu ar-lein.
Cesglir gwastraff bwyd unwaith yr wythnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich cadi gwastraff bwyd.

Defnyddiwch leinwyr cadi yn eich cadi cegin, yna rhowch nhw yn eich bin gwastraff bwyd brown cymunedol. Peidiwch â defnyddio bagiau plastig. 

Gallwch gasglu leinwyr cadis bwyd gan eich cyflenwr lleol, neu eu harchebu ar-lein. Archebu mwy o fagiau a chadis. Os ydych yn byw mewn fflat a bod gan eich adeilad wasanaeth porthor, gwiriwch a yw’n stocio leinwyr cadis bwyd cyn archebu ar-lein.
Caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu bob pythefnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich bin gwastraff cyffredinol.

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o fag ar wahân i fagiau ailgylchu ar gyfer gwastraff cyffredinol. Pan fydd bagiau'n llawn, rhowch nhw yn eich bin gwastraff cyffredinol cymunedol.

Byddwn ond yn casglu cynnwys eich bin. Ni fyddwn yn gwagio biniau sydd wedi'u blocio gan wastraff swmpus neu fagiau ychwanegol.​

Caiff gwastraff gardd ei gasglu bob pythefnos. Mwy o wybodaeth am beth sy'n mynd yn eich bin gwastraff gardd.

Mae llawer o fflatiau â gerddi yn cael eu cynnal a'u cadw gan staff cynnal a chadw tiroedd.

Rhowch wastraff gardd yn syth i’ch bin gwastraff gardd cymunedol. Peidiwch â rhoi bagiau o wastraff gardd yn eich bin cymunedol.

Os yw eich bin gardd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â'ch landlord, gofalwr yr adeilad neu’r cwmni rheoli adeiladu. Gallant archebu un newydd gennym trwy ffonio C2C ar 2087 2087.

Darpariaethau biniau ar gyfer fflatiau

Os oes gennych gasgliadau gwastraff y cyngor, byddwn yn darparu biniau ar gyfer eich adeilad. Bydd nifer y biniau a ddarperir yn dibynnu ar nifer y fflatiau yn yr adeilad. I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau biniau, darllenwch y
Canllawiau Cynllunio Atodol (1.35mb PDF).​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Ni fyddwn yn darparu biniau gwastraff cyffredinol ychwanegol.

Os oes gennych wastraff ychwanegol na ellir ei ailgylchu'n rheolaidd, siaradwch â'r person sy'n gyfrifol am eich adeilad. Gallai hyn fod yn rheolwr eich adeilad, eich landlord, y datblygwr tai neu’r cwmni rheoli. Gallwn eu helpu i annog preswylwyr i ailgylchu mwy. Neu, gallant ddewis trefnu casgliadau ychwanegol gyda chwmni allanol.

Gallwn ddarparu biniau ailgylchu ychwanegol am gost os oes digon o le. Bydd angen i chi siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am eich adeilad i drefnu hyn.

Os ydych yn byw mewn fflat Cyngor, siaradwch â'ch swyddog tenantiaeth.
Os nad oes gennych y nifer cywir o finiau ar gyfer eich eiddo, neu os oes angen adnewyddu neu drwsio biniau, dylech siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am eich adeilad. Codir tâl am bob bin a ddarperir.

Os oes gennych gasgliadau'r cyngor, ond nad oes gennych fin gwastraff bwyd cymunedol, siaradwch â'r person sy'n gyfrifol am eich adeilad. Efallai y bydd yn gallu trefnu casgliad gwastraff bwyd.

Os ydych yn byw mewn fflat Cyngor, siaradwch â'ch swyddog tenantiaeth.
Os yw eich eiddo yn ddatblygiad newydd sbon, efallai y bydd eich biniau ar archeb, neu efallai na fyddwch yn cael casgliad gwastraff y cyngor.

Cyn y gall casgliadau'r cyngor ddechrau, bydd angen asesu'r safle a bydd angen archebu a thalu am finiau'r cyngor. Mae rheolwr eich adeilad, eich landlord, y datblygwr tai neu’r cwmni rheoli yn gyfrifol am hyn.

Cymorth i ddefnyddio biniau'n gywir

Gallwn helpu preswylwyr sy'n byw mewn blociau o fflatiau i ddeall sut i ddefnyddio eu biniau'n gywir.

Gallwch argraffu ein taflen gwybodaeth ailgylchu a gwastraff i'w hanfon, neu gallwn drefnu danfoniad.

Rydym hefyd yn hapus i drefnu digwyddiadau addysg curo drysau. Os hoffech chi drefnu digwyddiad curo drysau, gofynnwch i'ch cwmni rheoli gysylltu â ni fel y gallwn drefnu mynediad i'r adeilad.






Os nad yw eich biniau wedi’u diogelu, a bod pobl nad ydynt yn byw yn eich datblygiad yn gallu cael gafael ar eu biniau, mae perygl y cânt eu defnyddio fel man tipio anghyfreithlon. Rydym yn argymell yn gryf bod biniau'n cael eu diogelu. Os nad ydych yn credu eu bod wedi’u diogelu, dylech siarad â rheolwr eich adeilad, eich landlord neu’r cwmni rheoli a gofyn iddynt wneud newidiadau.



© 2022 Cyngor Caerdydd