Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Newidiadau i gasgliadau bagiau gwastraff cyffredinol

​Rydym yn gwneud newidiadau i'r ffordd y mae eiddo sy'n defnyddio bagiau streipiau coch yn rhoi eu gwastraff cyffredinol allan i'w gasglu. Os oedd eich eiddo’n defnyddio bagiau streipiau coch yn flaenorol, bydd angen i chi ddefnyddio bagiau du nawr. ​

Ni fydd eiddo sy’n defnyddio biniau olwynion du yn cael eu heffeithio gan y newid hwn.

Mae hyn yn seiliedig ar adborth sy’n dweud y gall bagiau streipiau coch fod yn anodd i’w defnyddio Rydych wedi dweud wrthym y gall fod yn anodd cael gafael arnynt, yn enwedig os ydych chi’n byw mewn aelwyd a rennir, neu newydd symud i eiddo.

Bydd y newidiadau hefyd yn arbed £50,000 a fydd yn cael ei ddefnyddio i ehangu gwasanaethau ailgylchu ar draws y Ddinas.

O 1 Gorffennaf​, gallwch roi hyd at 3 bag du allan ar eich dyddiad casglu gwastraff cyffredinol.

Os oes gennych fagiau streipiau coch yn eich eiddo o hyd, gallwch ddefnyddio'r rhain. Yna symudwch i fagiau du pan fyddant wedi rhedeg allan. 

Ni fyddwn yn dosbarthu bagiau streipiau coch mwyach. Bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun i'w defnyddio.  Rhaid i'r rhain fod yn fagiau maint safonol (tua 60 litr).

Peidiwch â defnyddio bagiau plastig, nac unrhyw fagiau lliw arall ar ôl i chi orffen defnyddio eich bagiau streipiau coch. Dim ond ar gyfer eich gwastraff cyffredinol y gallwch ddefnyddio bagiau du. ​

Dylech roi eich bagiau du y tu allan i'ch eiddo eich hun i'w casglu. 

Gall defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd yn anghywir arwain at gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig.

Rhoi mwy na 3 bag allan

Dim ond 3 bag y gall y rhan fwyaf o aelwydydd eu rhoi allan fesul casgliad.

Rhaid i chi beidio â rhoi mwy na 3 bag allan fesul casgliad, oni bai eich bod eisoes wedi cael cymeradwyaeth i roi mwy allan. 

Bydd y llythyr yr ydym wedi'i anfon atoch yn rhoi gwybod i chi faint o fagiau y gallwch eu rhoi allan. Bydd ein criwiau casglu yn gwybod a ydych wedi'ch cymeradwyo i roi mwy na 3 bag allan. 

Byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth neu dŷ wedi'i droi'n fflatiau

Bydd ein criwiau casglu yn gwybod a yw eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth cofrestredig, neu a yw eich tŷ wedi'i droi'n fflatiau.  Bydd ein criwiau casglu yn gwybod i gasglu mwy na 3 bag o'r tu allan i'ch eiddo. 



© 2022 Cyngor Caerdydd