Gallwch ddefnyddio'r chwiliwr codau post ar y dudalen hon i ddod o hyd i'ch stociwr bagiau agosaf neu i archebu bagiau a chadis i'w dosbarthu i chi.
Dewch o hyd i'ch stociwr lleol
Nodwch eich cod post i ddod o hyd i’ch stociwr agosaf ar gyfer:
- bagiau ailgylchu
- leinwyr cadis
Gallwch godi'r rhain yn lleol mewn Hybiau, llyfrgelloedd, siopau a swyddfeydd post.
Archebu bagiau neu gadis bwyd ar-lein
Diben ein gwasanaeth dosbarthu yw helpu cwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyrraedd y stocwyr eu hunain. Os yw'n bosibl, ewch i nôl bagiau a leinwyr cadis o'ch stociwr lleol.
Nodwch eich cod post i archebu'r eitemau canlynol ar-lein:
- Bagiau ailgylchu
- Leinwyr cadis
- Cadis bwyd cegin
- Cadis bwyd ymyl ffordd
- Bagiau deunydd hylendid (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth)
Ein nod yw eu dosbarthu o fewn 15 diwrnod gwaith. Pan fydd y galw’n uchel, gallai gymryd yn hirach.
Rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch cyflenwr agosaf neu er mwyn archebu ar-lein:
Mathau eraill o finiau a bagiau
- Bagiau a biniau gwastraff cyffredinol
- Sachau a biniau gwastraff gardd
Os ydych chi'n byw mewn fflat efallai y bydd eich concierge adeilad neu'ch cymdeithas dai yn gallu darparu'r hyn sydd ei angen arnoch chi.