Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Chwyn

​​Gall chwyn effeithio ar ymddangosiad cyffredinol ein dinas yn ogystal ag achosi difrod i arwynebau ac adeiladau, a gall rwystro draeniau.

Ni sy'n gyfrifol am reolaeth chwyn ar dir cyhoeddus, sy'n cynnwys: 

  • ffyrdd,
  • palmentydd,
  • cyrbau,
  • gylïau,
  • llwybrau cerdded,
  • parciau; a
  • mynwentydd.


Nid ydym yn cynnal tir sydd dan berchnogaeth breifat. 

Rheoli chwyn

Rydym yn chwistrellu chwyn ym misoedd y gwanwyn a'r haf. Ar ôl i ardal gael ei chwistrellu, mae'n cymryd tua dwy i dair wythnos i chwyn farw.
Mae ein timau yn dechrau yn gynnar yn y bore felly efallai na welwch chi nhw bob amser, ac mae ein rhaglen yn ddibynnol ar y tywydd, gan nad ydym yn chwistrellu pan fydd hi'n wyntog neu'n wlyb.

Mae chwyn yn cael eu chwistrellu â chwynladdwr gwenwyn isel (Glyphosate) y gellir eu defnyddio'n ddiogel heb niweidio pobl neu anifeiliaid, fodd bynnag gall chwyn ddychwelyd rhwng triniaethau. Dysgwch am ein polisi ar reoli chwyn amgylcheddol​

Rhoi gwybod am broblem gyda chwyn

Os ydych yn poeni bod problem gyda chwyn yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni. 


Loading...

​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd