Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwylanod yn achosi niwsans a chyngor ar beth i’w wneud

Yn draddodiadol, mae gwylanod yn rhan o amgylchedd glan y môr.  Fodd bynnag, mae'r niferoedd ohonyn nhw sydd mewn ardaloedd trefol wedi cynyddu.

Mae cyfnod bridio gwylanod yn dechrau ym mis Mai ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf sy’n esbonio pam mae’n ymddangos bod problem gyda’r adar hyn yn ystod yr haf.

Gwylanod a’r gyfraith

Mae pob rhywogaeth o wylan wedi’i gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd sy’n datgan ei bod hi’n anghyfreithiol i anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw wylan neu ddinistrio nyth sydd â chywion ynddi.

Wedi dweud hynny, mae’r gyfraith yn cydnabod bod rhai amgylchiadau yn codi lle mae angen mesurau rheoli. Dyw gwylan yn boendod neu’n achosi mân ddifrod ddim yn rheswm dilys dros ei lladd. Darllenwch ragor yn RSPB Cymru.​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​

Does gan Gyngor Caerdydd ddim dyletswydd statudol i gymryd camau gweithredu yn erbyn gwylanod.

Sut i osgoi problemau gyda gwylanod a phlâu

Mae gan Gaerdydd boblogaeth naturiol o wylanod sy’n cael eu denu gan ffynonellau bwyd. Er mwyn helpu i osgoi’r problemau hyn, dilynwch eich cyngor gyda’ch gwastraff bwyd:
  • Rhowch unrhyw fwyd gwastraff (boed wedi’i goginio a’i beidio) yn y cadi cegin
  • Cadwch y tu allan i’r cadi cegin yn lân ac yn rhydd o unrhyw ddiferion 
  • Defnyddiwch fagiau bin am ddim y cyngor​
  • Cadwch y caead ar gau
  • Clymwch y bag a’i roi yn y cadi ymyl y ffordd 
  • Os oes gormod o fwyd gennych gallwch ofyn am gadi ymyl y ffordd ychwanegol​
  • Rhowch rif neu enw’ch tŷ ar y cadi fel y gallwch nodi’ch un chi ar ôl i’r gwastraff bwyd gael ei gasglu
  • Rinsiwch eitemau fel poteli, tiniau, jariau a bocsys bwyd cyn eu rhoi yn y bagiau ailgylchu gwyrdd
  • Ewch a’ch bagiau ailgylchu gwyrdd a’ch cadi ymyl y ffordd ar gyfer bwyd gwastraff allan i’w gasglu bob wythnos
  • Defnyddiwch cadis bwyd a bagiau ailgylchu gwyrdd Cyngor Caerdydd yn unig er mwyn sicrhau y caiff eich gwastraff ei gasglu
  • Gwiriwch yn rheolaidd y tu allan i’ch eiddo er mwyn sicrhau bod unrhyw fentiau neu bibelli draen yn cael eu trwsio. Mae anifeiliaid fel llygod mawr yn cael eu denu i gartrefi os oes yna le diogel a chynnes iddyn nhw nythu

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd a dyluniad y cadi wedi cael eu datblygu’n arbennig i stopio plâu rhag ymosod ar ffynonellau bwyd.


Bydd yr adran Addysg a Gorfodi yn monitro eiddo er mwyn annog preswylwyr i ddefnyddio'r cadis gwastraff bwyd bob amser.​
© 2022 Cyngor Caerdydd