Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Costiau rheoli plau

​​​Cymerwch gip ar ein ffïoedd a’n telerau rheoli plâu.
O 1 Ebrill 2024, bydd ein ffioedd a thelerau rheoli plâu yn newid.


​​​Ffioedd ar gyfer safleoedd domes​tig

​​​​Y math o blaCost​TAWCyfanswm
Llygod mawr£54.17£10.83​£65
Llygod £54.17​£10.83£65
Gwenyn Meirch£54.17​£10.83£65
Gwiwerod £54.17 ​£10.83 £65
  

Triniaethau chwistrell


 
Y math o driniaethCost​TAWCyfanswmCost triniaethau dilynol
​Llawr Gwaelod neu Gyntaf£66.67
£13.33
​£80
Dd/B
Tŷ Cyfan neu Loriau Ychwanegol£83.33​​£16.67
£100
Dd/B
Chwilod duon (2 ymweliad)​£141.67
​£28.33
​£170
​£60 (yn cynnwys TAW)
Chwil​od Gwely: eiddo 1 i​​ 3 ystafell wely (2 ymweliad)
£141.67£28.33​£170
​£60 (yn cynnwys TAW)
Chwilod Gwely:​ eiddo 4 i 6 ystafell wely (2 ymweliad)​£183.33
​£36.67
​£220
​£80  (yn cynnwys TAW)
Monitro Pryfed​£25
​£5
​£30 (caiff y gost hon ei didynnu os rhoddir triniaeth)Dd/B
   

Bydd cwsmeriaid preifat domestig yn talu â cherdyn credyd neu ddebyd wrth archebu.
  

 

Safleoedd Masnachol



Y math o driniaethCost​TAWCyfanswm​Cyfradd ychwanegol fesul hanner awr
Gwiwerod neu gnofilod eraill (yr awr gyntaf)£66.67
​£13.33
​£80
​£40 (yn cynnwys TAW)

  • Mae angen o leiaf 3 ymweliad.
  • Cynigir contractau blynyddol.


















Bydd pris triniaethau chwistrellu’n amrywio yn ôl maint y safle a pha adeg o'r dydd ydyw. 

​​Cysylltwch â ni am ddyfynbris. 

 

Beth sy’n gynwysedig yn y pris ar gyfer gwahanol fathau o blâu?​​


 

Llygod Mawr



Mae’r tâl yn cwmpasu hyd at 3 ymweliad i fynd i'r afael â'r broblem bresennol. 

Cyfrifoldeb y perchennog neu’r meddianwyr ydyw i ffonio a threfnu apwyntiadau dilynol bob 7 i 14 diwrnod nes bod y mater wedi'i ddatrys. 

Os na fyddwn wedi clywed gan y deiliad tŷ o fewn mis o'r ymweliad diwethaf, byddwn yn cau'r achos. 

Ar ôl i fis fynd heibio, neu os bydd angen mwy na 3 ymweliad, bydd angen gwneud taliad arall. ​

 

Llygod


Mae’r tâl yn cwmpasu hyd at 3 ymweliad i fynd i'r afael â'r broblem bresennol.  

Cyfrifoldeb y perchennog neu’r meddianwyr ydyw i ffonio a threfnu apwyntiadau dilynol bob 7 i 14 diwrnod nes bod y mater wedi'i ddatrys. 

Ar ôl i fis fynd heibio, neu os bydd angen mwy na 3 ymweliad, bydd angen gwneud taliad arall. ​

 

Gwiwerod

Mae'r tâl yn cynnwys arolwg cychwynnol a gosod magl.

Mae'n cynnwys 2 ymweliad pellach i symud unrhyw wiwerod ac ailosod y fagl. Os oes angen mwy na 3 ymweliad bydd angen gwneud taliad pellach. ​


Gwenyn Meirch

Mae’r tâl yn cwmpasu'r arolwg cychwynnol a thriniaeth os bydd angen. 

Mae un driniaeth fel arfer yn ddigonol; fodd bynnag, os nodir bod dal gweithgarwch o fewn 7 diwrnod o’r driniaeth, yna cynhelir triniaeth ddilynol am ddim. 

Fodd bynnag, os ymddengys mai nyth newydd neu wahanol ydyw, yna bydd tâl ychwanegol. 

Ni chaiff y nyth ei dynnu, ond gall y deiliad tŷ wneud hynny pan nodir nad oes mwy o weithgarwch neu gall aros lle y mae gan na cheir ei ad-feddiannu.  
 

Gwenyn

Nid ydyn yn darparu triniaeth ar gyfer gwenyn.



Fodd bynnag, os telir am ymweliad ar gyfer gwenyn meirch ac yn dilyn hynny yn troi allan i fod yn wenyn, rhoddir cyngor. 

Gall y cwsmer fod â hawl i gael ad-daliad o 50% o’r ffi. Mae hyn ar gyfer y gost galw allan a chyngor. 

Rhoddir gwybod am hyn i gwsmeriaid wrth iddynt archebu. ​

 

Chwain


Mae’r tâl yn cwmpasu un driniaeth chwistrellu sy'n ddigon fel arfer, ar yr amod y glynwyd wrth y canllaw ynghylch trin anifeiliaid anwes a hwfro’r eiddo. 

Os bydd chwain dal i fod yn bresennol o fewn 2 i 3 wythnos ar ôl y chwistrelliad, byddwn yn darparu triniaeth ddilynol yn rhad ac am ddim. 

Os byddwch yn cysylltu ar ôl mis neu os bydd angen mwy na 2 ymweliad, yna bydd unrhyw ymweliadau pellach yn costio. 


Llau gwely


Mae’r tâl yn cynnwys dwy driniaeth lawn o’r ystafelloedd gwely yn yr eiddo. 

At ddibenion codi tâl, os yw pobl yn cysgu yn y lolfa neu ardal arall, yna ystyrir hynny fel ystafell wely. 

Dylid cynnal yr ail ymweliad 3 i 4 wythnos ar ôl yr un cyntaf, a chyfrifoldeb y perchennog neu’r meddianwyr ydyw i gysylltu â’r swyddfa i drefnu’r ail ymweliad. 

Mae’n rhaid i'r deiliaid tŷ ddilyn cyngor a roddir er mwyn sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol. 

Bydd unrhyw driniaeth y tu hwnt i’r 2 gychwynnol yn cael eu rhoi am bris gostyngedig.

 

Chwilod Duon



Mae’r tâl yn cynnwys 2 ymweliad monitro a 2 ymweliad triniaeth. 

Bydd y Technegydd yn rhoi gwybod am y cyngor a argymhellir rhwng ymweliadau, ond cyfrifoldeb y perchennog neu’r meddianwyr ydyw i gysylltu â'r swyddfa Rheoli Plâu i drefnu ymweliad dilynol. 

Cynigir ymweliadau dilynol am bris gostyngedig.  

Os na chlywir unrhyw beth o fewn mis neu os barnwyd bod y swydd wedi’i chwblhau gan y Technegydd, yna caiff ei hystyried yn archeb newydd.


Argymhellion atal cnofilod 

Rhoddir cyngor ar bwyntiau mynediad posibl i eiddo. Nid yw bob amser yn amlwg ac weithiau gallant ddod o ddraeniau o dan y ddaear neu eiddo cyfagos. Nid ydym yn cyflawni gwaith atal.

Cyfrifoldeb y perchennog/meddiannydd/landlord fyddai trefnu hyn. 

Mae sicrhau bod atgyweiriadau'n cael eu cwblhau yn rhan hanfodol o waith rheoli cnofilod effeithiol i atal problemau rhag digwydd eto. ​
© 2022 Cyngor Caerdydd