Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yn edrych ymlaen dros y 15 mlynedd nesaf at rwydwaith o lwybrau cerdded a beicio a fydd yn helpu trigolion i deithio o amgylch y ddinas yn haws.
Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft ar gyfer Caerdydd wedi'i ddatblygu i ystyried:
- Cynigion i wella llwybrau cerdded a beicio a nodir yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, gan gynnwys rhwydwaith o lwybrau Beicffordd ar wahân,
- Y llwybrau sydd eu hangen i gysylltu safleoedd datblygu strategol â chymunedau sydd eisoes yn bodoli a chyrchfannau allweddol, gynnwys Canol y Ddinas a Bae Caerdydd,
- Y llwybrau sydd eu hangen i gael mynediad at gyrchfannau lleol pwysig ledled y ddinas, gan gynnwys ysgolion a siopau lleol,
- Yr adborth a gafwyd i’r ymgysylltu a wnaed gan Commonplace rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021, a nododd leoliadau ychwanegol lle mae angen gwelliannau cerdded a beicio.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau ar 31 Hydref 2021.
Map Rhwydwaith Integredig
Mae’r Map Rhwydwaith Integredig yn nodi gweledigaeth 15 mlynedd Cyngor Caerdydd i wella llwybrau beicio a cherdded ledled y ddinas, er mwyn bodloni gofynion Deddf Teithio Llesol Cymru 2013 a chynllunio ar gyfer cyflwyno llwybrau a gwelliannau ar gyfer teithio llesol.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngwanwyn 2017, cafodd y Map Rhwydwaith Integredig ei adolygu a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018.
Mae’r Map Rhwydwaith Integredig a’r Adroddiad cysylltiedig ar gael i’w lawrlwytho isod:
Y Map Llwybrau Presennol
Mae Map Llwybrau Presennol Caerdydd yn dangos y llwybrau cerdded a beicio sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru a chafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2018.