Cymeradwywyd Polisi Enwi Strydoedd Cyngor Caerdydd ym mis Hydref 2019.
Ei nod yw cynnig cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion eiddo presennol. Mae’n nodi'r broses y dylid ei dilyn wrth enwi a rhifo datblygiadau newydd, gan gynnwys ymgynghori â Phanel Enwau Lleoedd/Enwi Strydoedd Caerdydd Ddwyieithog.