Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Diogelwch ar gyfer Teithwyr tacsi

​Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am drwyddedu cerbydau Hacni (tacsis), cerbydau llogi preifat, a’u gyrwyr. 

Mae pob un o’n gyrwyr yn gorfod cyflawni gwiriadau troseddol a meddygol i sicrhau eu bod yn gymwys i fod yn yrwyr trwyddedig. 

Mae’r holl gerbydau trwyddedig yn cael eu profi’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel.

I sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel dylech bob amser ofalu eich bod yn defnyddio cerbyd trwyddedig gyda gyrrwr trwyddedig.

Mae gyrwyr trwyddedig yn gwisgo bathodyn adnabod gyda’u llun a manylion y drwydded arno. Caiff un bathodyn ei wisgo gan y gyrrwr ac mae un arall yn cael ei arddangos ar ffenestr flaen  y cerbyd ar ochr y teithiwr.

I gyrraedd pen eich taith yn ddiogel dylech:

  • Sicrhau eich bod yn talu’r ffi briodol os ydych mewn tacsi
  • Archebu cerbyd llogi preifat ymlaen llaw drwy gwmni llogi preifat
  • Gofyn os gall y lleoliad drefnu tacsi/cerbyd llogi preifat ar eich rhan a gadael i chi aros y tu mewn tan iddo gyrraedd
 
Cerbydau HacniCerbydau Llogi Preifat
Math o gar​ Du a gwyn neu math Tacsi Llundain​Amryw fathau o modelau
Arwydd to ​Arddangos arwydd to Tacsi​Ddim yn arddangos arwydd to
Plât Trwydded ​Plât gwyn ar gefn y cerbydPlât melyn ar gefn y cerbyd​
​Sut i achebu ​Modd ei alw o fin y ffordd​Angen ei archebu rhag blaen

Safleoedd Tacsi

Defnyddiwch y safleoedd tacsis ar:
  • Lôn y Felin
  • Heol Eglwys Fair (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
  • Heol y Brodyr Llwydion (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
  • Plas-y-Parc
  • Ffordd Churchill
  • Tredegar Street
  • Cei'r Fôr-Forwyn
  • Stryd Albert 
  • Gorsaf Caerdydd Canolog

Gwneud cwyn


Os yw gyrwr cerbyd hacni wedi gwrthod mynd â chi oherwydd bod eich taith yn rhy fer, neu os nad yw’r gyrrwr neu'r cerbyd (cerbyd hacni neu logi preifat) yn bodloni eich disgwyliadau, gallwch roi gwybod am hynny i Is-adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd. ​​


© 2022 Cyngor Caerdydd