Os yw gyrrwr cerbyd hacni wedi gwrthod mynd â chi oherwydd ei bod yn daith rhy fer, neu os nad yw’r gyrrwr neu'r cerbyd (cerbyd hacni neu hurio preifat) yn bodloni eich disgwyliadau, gallwch roi gwybod am hynny i Is-adran Trwyddedu Cyngor Caerdydd.
I roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni:
- gwnewch nodyn / tynnwch lun o'r rhif gyrrwr,
- rhif cofrestru’r cerbyd,
- rhif plât y drwydded,
- y dyddiad, yr amser a'r lle y digwyddodd y digwyddiad.
Rhowch wybod am y digwyddiadau hyn cyn gynted â phosibl.