Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cais am drwydded parcio preswylwyr

​​​​​​​​​​​​​Gallwch wneud cais am drwydded parcio os ydych yn byw mewn stryd sy'n rhan o'r cynllun Trwyddedau Parcio Preswylwyr. 

Rhaid i'r cyfeiriad rydych yn ei roi fod yn brif gyfeiriad i chi.   

Dim ond 2 drwydded preswylwyr ac 1 drwydded ymwelwyr a ganiateir ar gyfer pob eiddo.  

Mae pob trwydded yn ddilys am naill ai 3, 6, 9 neu 12 mis. 

Dylai pob cais am drwydded parcio gael ei wneud trwy system MiPermit.

Mewngofnodi i MiPermit

Costau Trwyddedau Preswylwyr




​​
​12 mis
​9 mis
​6 mis
​3 mis
​Trwydded gyntaf
​£24
​£18
​£12
​£6​
​Ail drwydded
​£54
​£40.50
​£27
£13.50​
Faint mae parcio i ymwelwyr​



  • ​​Cyfrif MiPermit,
  • Rhif cofrestru’ch cerbyd,
  • Prawf bod y cerbyd yn cael ei gadw yn eich cyfeiriad a bod cysylltiad rhyngddo a’r person sy’n gwneud cais am y drwydded.






Gall y prawf hwn fod yn un o’r canlynol:

  • Llyfr Log y Cerbyd (V5C), 
  • Cytundeb llogi neu brydlesu, neu 
  • Ddogfen Yswiriant. Y cyfeiriad lle y caiff eich car ei gadw y dylai’r ddogfen yswiriant ei nodi. 






Ceisiadau Myfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr ac yn mynd â'ch car gyda chi i'r brifysgol, dylai eich car gael ei yswirio yn eich cyfeiriad prifysgol. Gallwch fod â chyfeiriad gohebiaeth ar wahân os oes angen un arnoch. 

Cyn gwneud cais am drwydded, bydd angen i chi greu cyfrif. Nodwch y canlynol:  

  • eich enw llawn, 
  • rhif eich tŷ a’ch cod post, 
  • eich rhif treth gyngor (mae angen hwn arnom fel prawf o'ch cyfeiriad).






Os na allwch sefydlu cyfrif ar-lein, gallwch ffonio MiPermit ar 0333 123 6006.

Pan fydd gennych gyfrif gyda MiPermit, gallwch brynu a rheoli eich trwyddedau ar y wefan neu drwy App MiPermit.

Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor


Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor neu os nad oes gennych fynediad iddo, cwblhewch ffurflen gais sefydlu cyfrif MiPermit (116kb DOC)​​

Gallwch e-bostio neu bostio'r ffurflen gais wedi'i chwblhau i: 
 

Gwasanaethau Parcio 
Blwch Post 47
Caerdydd
CF11 1QB
 
Byddwch yn derbyn e-bost neu neges SMS gyda rhif PIN a fydd yn eich galluogi i wneud cais am eich trwydded ar-lein.​​​
​​

© 2022 Cyngor Caerdydd