Gallwch wneud cais am drwydded contractwr os ydych yn fasnachwr sy'n gwneud gwaith mewn eiddo sy'n rhan o'r cynllun trwyddedau preswyl.
Mae angen i'r masnachwr wneud cais am y drwydded. Nid cyfrifoldeb y preswylydd yw darparu trwydded ymwelwyr pan fydd gwaith yn cael ei gwblhau yn eu heiddo.
Ni fyddwn yn derbyn nodiadau ar ffenestri blaen cerbydau. Os byddwch yn parcio eich cerbyd mewn ardal barcio i breswylwyr yn unig heb drwydded ddilys, mae'n bosib y cewch Hysbysiad Tâl Cosb.
Mae trwyddedau parcio yn ddigidol. Ni fydd gennych chi drwydded i’w harddangos yn eich cerbyd.
Gwneud cais am eich trwydded
Gallwch wneud cais am drwydded i gwmpasu:
- 1 diwrnod
- 7 diwrnod
- 14 diwrnod, neu
- 28 diwrnod.
Bydd angen i chi lanlwytho prawf o'r gwaith a wneir yn y cyfeiriad.
Darllenwch y telerau ac amodau'n ofalus gan y gallwch dderbyn Hysbysiad Tâl Cosb os na fyddwch yn cadw atynt.
Costau trwydded
Costau trwydded contractwyr ar gyfer ardaloedd trwyddedau parcio parthau
1 diwrnod
| £8
|
7 diwrnod
| £24 |
14 diwrnod
| £35
|
28 diwrnod
| £60
|