Mae trwyddedau gofalwyr yn caniatáu i ofalwyr ddefnyddio ardaloedd parcio â thrwydded i breswylwyr ger cartref y person y maent yn gofalu amdano.
Gallwch wneud cais am drwydded gofalwr am ddim os ydych yn:
- ofalwr proffesiynol a gyflogir yn y sector gofal
- gofalwr heb fod yn broffesiynol sy'n derbyn Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr
Y gofalwr sy'n gorfod gwneud cais am drwydded, nid y preswylydd.
Mae trwyddedau gofalwyr yn ddigidol ac wedi’u cysylltu â rhif cofrestru eich cerbyd felly nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth.
Gwneud cais am Drwydded Gofalwr
Gallwch greu cyfrif ar system MiPermit i wneud cais am drwydded ddigidol. Gallwch naill ai:
- Cofrestru ar-lein Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
- Lawrlwytho a chofrestru gyda'r ap MiPermit
Bydd angen i chi gynnwys eich enw llawn a phrawf o:
- eich cyflogaeth, os ydych yn ofalwr proffesiynol
- eich Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr, os ydych yn ofalwr heb fod yn broffesiynol
- sut mae'r cerbyd wedi’i gysylltu â chi, er enghraifft V5C neu ddogfen yswiriant
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau ar ôl i ni ddilysu eich cyfrif. Yna gallwch gofrestru eich cerbyd a'r stryd lle mae angen i chi barcio drwy’r ap MiPermit.
Mae trwyddedau'n ddilys am hyd at 24 awr, a gallwch wneud cais am fwy nag un drwydded ar un adeg.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r drwydded gofalwr:
Gwasanaethau Parcio
Blwch SP 47
Caerdydd
CF11 1QB
Cysylltu â ni
Ffoniwch y tîm MiPermit ar 0333 123 6006 neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu help i wneud cais.