Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod 3,300 o ddyfeisiau synhwyro mewn mannau parcio am ffi ac i bobl anabl ar y cyd â chwmni technoleg barcio; Smart Parking Limited.
Cyngor Caerdydd yw'r Cyngor cyntaf yn Ewrop i gyflwyno'r dechnoleg hon trwy rwydwaith ffyrdd y ddinas.
Mae'r data'n cael ei fwydo o'r dyfeisiau a gall gyrwyr yng Nghaerdydd lawrlwytho app o'r enw Parcio Caerdydd i chwilio gweld map cyfredol o fannau parcio sydd ar gael a chael eu cyfeirio at fan parcio gwag. Mae app Parcio Caerdydd bellach ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android yn Siop Apple a siop Google Play.
Mae Parcio Caerdydd hefyd yn gallu cysylltu defnyddwyr â gwasanaeth talu i barcio symudol Caerdydd - y mae MiPermit yn ei ddarparu - sy'n cynnig cadarnhad a negeseuon testun atgoffa am ddim.
Gallwch weld lle mae llefydd gwag cyn teithio drwy ddefnyddio’r map hwn a gweld newidiadau gydag App Parcio Caerdydd.
Lawrlwythwch:
Mae Cyngor Caerdydd yn atgoffa gyrwyr i gofio am y
gyfraith ar ddefnyddio ffôn wrth yrruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.