Faint mae’n gostio?
Am wybodaeth ar prisiau ewch i dudalen Parcio a Theithio Gorllewin Caerdydd.
Sut ydw i’n talu am fy nhocyn?
Gallwch dalu’r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws.
Nid oes rhaid i chi gael yr union swm cywir ond byddai'n helpu’r gyrrwr os oes gennych yr arian cywir.
A fydd fy Mhas Bws Consesiynol yn ddilys ar y bws hwn?
Na fydd. Nid yw’r gwasanaethau Parcio a Theithio yn derbyn pasys Consesiynol na thocynnau bws eraill.
Ar ba ddiwrnodau mae'r gwasanaeth yn gweithredu?
Mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ble mae’r safle bws yng nghanol y ddinas?
Mae’r gwasanaeth yn stopio yn Canal Street yn unig.
Defnyddir yr un safle bws ar Canal Street ar gyfer y daith yn ôl i’r maes parcio.
Faint o amser mae’r daith o’r maes parcio i ganol y ddinas yn ei gymryd?
13 i 17 munud yn dibynnu ar y traffig.
A allaf adael fy nghar yn y safle parcio dros nos?
Na allwch. Cofiwch fod perchenogion yn parcio eu ceir ar eu menter eu hunain.
A oes cyfyngiad uchder i gerbydau?
Nid oes unrhyw gyfyngiadau uchder ar y safle.
Ydw i’n gallu parcio cartref modur yn y maes parcio?
Gallwch. Ni chaniateir parcio dros nos yn y maes parcio.
Pwy ddylwn gysylltu â nhw os ydw i wedi gadael unrhyw beth ar y bws?
Yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch Bws Caerdydd ar 029 2066 6444 neu e-bostiwchtalktous@cardiffbus.com
A allaf fynd â chadair olwyn neu bram ar y bws?
Gallwch, mae’r bysus yn rhai â lloriau isel, sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac sy’n gallu derbyn pramiau. Mae rhywfaint o le ar y bws ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.
A oes unrhyw doiledau ar y safle?
Nac oes
A fydd staff ar ddyletswydd yn y maes parcio?
Nac oes