Faint mae’n gostio?
Am wybodaeth ar prisiau ewch i dudalen Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd
Sut ydw i’n talu am fy nhocyn?
Gallwch dalu’r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws.
Nid oes rhaid i chi gael yr union swm cywir ond byddai'n helpu’r gyrrwr os oes gennych yr arian cywir.
Gallwch hefyd dalu gan ddefnyddio ap ffôn symudol tocynnau Bws CaerdyddLink opens in a new window
A fydd fy Mhas Bws Consesiynol yn ddilys ar y bws hwn?
Na fydd. Nid yw’r gwasanaethau Parcio a Theithio yn derbyn pasys Consesiynol na thocynnau bws eraill.
Ar ba ddiwrnodau mae'r gwasanaeth yn gweithredu?
Mae’r gwasaneth ar waith o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac eithrio ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Edrychwch am newidiadau dros ddydd Gwener y Groglith, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Beth yw amseroedd agor y safleoedd Parcio a Theithio?
Dydd Llun i Ddydd Gwener |
6.45am |
Dydd Sadwrn |
7.30am |
Nid oes gan y safle amser cau swyddogol. Mae'n cau'n fuan wedi i'r bws olaf gyrraedd, unwaith y bydd pob un o'r teithwyr wedi gadael.
Pa mor aml mae’r bysus yn rhedeg?
Dydd Llun i Ddydd Gwener |
7.17am |
7.30pm |
Dydd Sadwrn |
8.02am |
7.00pm |
Mae bysus Parcio a Theithio yn gweithredu bob 15 munud trwy’r rhan fwyaf o’r dydd.
Gall amlder ac oriau gweithredu’r bysus amrywio ar y diwrnodau y cynhelir Digwyddiadau yn Stadiwm y Mileniwm.
Ble mae’r safle bws yng nghanol y ddinas?
Y prif safle bws yw safle bws HN ar Ffordd Churchill (gwasanaeth X59). Mae’r gwasanaeth hefyd yn gollwng teithwyr ar Rhodfa'r Orsaf yng nghanol y ddinas.
Defnyddir yr un safle bws ar Ffordd Churchill ar gyfer y daith yn ôl i’r maes parcio.
Faint o amser mae’r daith o’r maes parcio i ganol y ddinas yn ei gymryd?
19 munud yn dibynnu ar y traffig.
A allaf adael fy nghar yn y safle parcio dros nos?
Gallwch. Mae’r safle dan glo a chyda Camerâu Teledu Cylch Cyfyng. Cofiwch fod perchenogion yn parcio eu ceir ar eu menter eu hunain, felly nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu diogelwch. Bydd angen i chi dalu am docyn arall gan y bydd eich tocyn gwreiddiol wedi darfod.
A oes cyfyngiad uchder i gerbydau?
Nid oes unrhyw gyfyngiadau uchder ar y safle.
Ydw i’n gallu parcio cartref modur yn y maes parcio?
Ydych, ond ni chaniateir i chi gysgu yn y cerbyd dros nos.
Pwy ddylwn gysylltu â nhw os ydw i wedi gadael unrhyw beth ar y bws?
Yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch Bws Caerdydd ar 029 2066 6444 neu e-bostiwchtalktous@cardiffbus.com
A allaf fynd â chadair olwyn neu bram ar y bws?
Gallwch, mae’r bysus yn rhai â lloriau isel, sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac sy’n gallu derbyn pramiau. Mae rhywfaint o le ar y bws ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.
A oes unrhyw doiledau ar y safle?
Oes, ac mae toiledau i’r anabl ar gael hefyd.
A fydd staff ar ddyletswydd yn y maes parcio?
Bydd, bydd o leiaf un aelod o staff ar ddyletswydd yn y maes parcio.