Marciau amddiffyn mynediad, sydd hefyd yn cael eu galw’n farciau bar H, yw llinellau gwyn ar y ffordd, fel arfer o flaen rhodfeydd a modurdai.
Maent yn helpu gyrwyr i roi gwybod, os ydyn nhw’n parcio yno, gallent achosi rhwystr ac ni ddylent rwystro mynediad pobl i ardaloedd parcio oddi ar y ffordd.
Sut olwg sydd ar farciau Bar H?
Mae marciau bar H yn hawdd iawn i’w hadnabod i helpu i atal gyrwyr rhag parcio’n anghyfrifol.
Sut mae gwneud cais am Farciau H Bar?
Gwneir ceisiadau marciau Bar H ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf, ac yna dewis y ddolen ‘Bariau H Marciau Amddiffyn Mynediad’ o’r rhestr.
Nid oes modd gwneud cais am farciau bar H dros bwyntiau mynediad a rennir oni bai bod gennych ganiatâd ysgrifenedig pawb sy’n gallu defnyddio’r pwynt mynediad hwnnw, neu os oes cyfyngiadau parcio eraill hefyd ar waith, er enghraifft llinellau melyn dwbl.
Bydd gofyn I chi ddarllen, deal a chytuno â’r canlynol cyn gwneud cais.
Cyffredinol
- Marciau cynghorol i ddangos i yrwyr bod y lleoliad yn fan anaddas i barcio ynddo yw marciau sicrhau mynediad (H-Nod). Cânt eu defnyddio gan amlaf o flaen garejis a dreifiau, er y gallant fod mewn unrhyw fan lle mae’r palmant wedi ei ostwng at lefel y lôn gerbydau, yn benodol er mwyn galluogi mynediad i gerbydau dros y droedffordd.
- Nid yw’n parcio ar farc H-Nod yn drosedd ynddo’i hun.
- Mae’n rhaid i unrhyw H-Nod gydymffurfio â meini prawf cyfreithiol penodol felly mae’n bosibl y bydd amgylchiadau pan na ellir gosod marciau H-Nod. Asesir pob safle ar wahân ac yn erbyn safonau cyfredol y Cyngor. Ni fydd y ffaith fod marciau tebyg ar waith yn yr ardal leol yn golygu y caiff cais ei gymeradwyo’n awtomatig.
- Mae’n rhaid gwneud cais trwy’r dull a bennir gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i addasu’r broses gais ar unrhyw adeg os oes angen.
- Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn gwneud
pob ymdrech i fwrw ymlaen â’r broses o osod y marciau cyn gynted â phosibl; fodd bynnag, ni all roi unrhyw sicrwydd o ran pryd y caiff y gwaith ei wneud oherwydd gall gymryd amser amhenodol i wneud trefniadau i baentio eich marciau.
- Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais os nad yw’n fodlon bod yr amodau'r cais wedi eu bodloni.
- Caiff pob cais ei ystyried ar sail ei deilyngdod, ac;
- Yn unigol, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i amrywio’r telerau ac amodau ar unrhyw adeg.
Costau
- Bydd unrhyw gais am H-Nod yn costio £179. Ni chynigir ad-daliad. Ni chodir tâl ar hyn o bryd ar ddeiliaid Bathodyn Glas.
- Bydd angen y tâl llawn cyn y gellir cynnal unrhyw archwiliad neu cyn cychwyn ar y gwaith.
- Os yw’r llinellau’n gwisgo neu’n pylu, gallwch ofyn i ni eu hail-baentio. Fodd bynnag, bydd hyn yn costio’n ychwanegol a chaiff y costau hynny eu pennu ar yr adeg y gofynnwch i ni wneud y gwaith.
Ni chewch wneud cais
- Os oes un o’r cyfyngiadau Parcio canlynol eisoes o flaen eich dreif neu garej (nid yw’r rhestr hon yn derfynol ac ystyrir pob cais gan ddwyn i sylw'r cyfyngiadau parcio sydd neu a fydd ar waith yn yr ardal):
- Llinellau melyn dwbl
- Llinellau igam ogam
- Safle bws
- Mannau parcio penodol e.e. mannau parcio i ddeiliaid trwyddedau preswylwyr
- Os nad yw’r palmant wedi ei ostwng at lefel y lôn gerbydau yn benodol er mwyn rhoi mynedfa i gerbydau dros y droedffordd.
- Er mwyn creu man Parcio preifat I chi barcio. Mae’n bosibl y caiff marciau eu dileu os yw’r preswylydd neu ei ymwelwyr yn parcio arnynt yn rheolaidd.
- Os yw’r H-Nod ar gyfer sicrhau unrhyw fynediad arall ac eithrio mynediad yr ymgeisydd.
- Os ydych yn breswylydd eiddo Cyngor, cymdeithas dai neu’n denant. Dim ond pan rydd yr awdurdod tai perthnasol neu’r landlord gymeradwyaeth ffurfiol y gellir gosod marciau H-Nod yn yr achosion hyn. Bydd angen copi o ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor/cymdeithas dai/perchennog/landlord cyn y cymeradwyir y cais; neu
- Os yw’r pwynt mynediad er budd nifer o eiddo. Ni ellir gosod marciau H-Nod yn yr achos hwn oni bai eich bod yn gallu cyflwyno cydsyniad ysgrifenedig gan bob un arall y mae ganddo hawl I ddefnyddio’r pwynt mynediad. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am yr holl gostau.
Faint fydd hyn yn costio?
Ffi o £179 fesul marc Bar H. Does dim modd ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu’r cais. Ni fyddwn yn codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo ac mae’r broses Marciau Bar H yn gyflawn, byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost gyda’r dogfennau a’r llythyr cyflwyno. Gallwch fewngofnodi ar unrhyw gam i
weld statws eich cais am farc Bar H.
All rhywun gael dirwy am barcio ar Farc Bar H?
Gall.
Er nad yw yn ei hun yn drosedd i barcio ar farc Bar H, mae’n bosibl y bydd Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy parcio) yn cael ei gyflwyno os yw’r marc bar H hefyd wedi’i leoli lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i alluogi cerbyd i gael mynediad at y droedffordd.
Os ydych yn gweld cerbyd wedi’i barcio ar farc bar H lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng, gallwch adrodd amdano yn gyfrinachol.