Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i roi terfyn ar feicwyr oddi ar y ffordd sy'n torri'r gyfraith drwy yrru'n beryglus, yn ddiofal a heb awdurdod cyfreithlon ar dir comin. Enw ymgyrch yr heddlu i fynd i'r afael â'r mater hwn yw Operation Red Mana.
Os ydych yn credu bod beic neu gerbyd modur yn cael ei ddefnyddio neu ei storio'n anghyfreithlon neu'n achosi niwsans, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl.
Dylech gynnwys manylion megis:
- dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad,
- lliw, gwneuthuriad a model y beic modur, a
- disgrifiad o ddillad, helmed neu liw gwallt y beiciwr.
Gallwch adrodd am ddigwyddiadau i rif di-argyfwng 101 yr heddlu neu gallwch e-bostio eich adroddiad gan gynnwys unrhyw luniau sydd gennych i opredmana@south-wales.pnn.police.uk. Neu gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau i’r Cyngor drwy ebostio BOAYFf@caerdydd.gov.uk. Caiff materion a adroddir eu cofnodi ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol a chânt eu hanfon ymlaen at yr heddlu ar gyfer eu cofnodion.
Y gyfraith
Mae Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn ei gwneud yn drosedd gyrru cerbyd mwn ffordd beryglus, heb ofal na sylw priodol neu mewn modd a allai achosi 'braw, trallod neu annifyrrwch'. Os byddwch yn gwneud hynny, gallwch gael eich erlyn a gall eich cerbyd gael ei atafaelu a'i ddinistrio.
Mae’r un Ddeddf yn caniatáu i’r heddlu atafael cerbydau nas yswiriwyd a’r rhai sy’n cael eu gyrru heb drwydded.
Gall troseddwyr hefyd wynebu’r risg o golli eu cartrefi, oherwydd gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon olygu eu bod yn torri eu cytundeb tenantiaeth gyda’r awdurdod lleol neu gymdeithas dai.
Trac Motocross Caerdydd
Mae'r trac yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ar hyn o bryd. Ar ôl cofrestru i ddefnyddio'r trac rydym yn gofyn i feicwyr wirfoddoli peth amser er mwyn helpu i redeg y cyfleuster.
Rydym yn cynnal archwiliadau ar y cerbydau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i’w reidio, yn sicrhau bod pob marchog yn gwisgo offer amddiffynnol a bod y cyfleuster yn agored i bawb o 7 oed ac yn hŷn. Dim ond pan fydd y cyfleuster ar agor y dylech chi ddefnyddio’r trac er mwyn sicrhau bod yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ddilys.