I wneud cais am drwydded preswylydd bydd angen y canlynol arnoch:
- Rhif cofrestru’r cerbyd.
- Prawf bod y cerbyd yn cael ei gadw yn eich cyfeiriad a bod cysylltiad rhyngddo a deiliad y drwydded.
Gall prawf o'r cerbyd fod yn:
- Llyfr Log Cerbydau (V5C),
- Cytundeb llogi neu brydlesu neu
- Ddogfen Yswiriant.
Dylai'r cyfeiriad yswiriant fod lle rydych chi'n cadw'r car.
Os ydych yn fyfyriwr a bod eich car yn symud gyda chi i'r brifysgol, dylai eich car gael ei yswirio yn eich cyfeiriad prifysgol, boed yn neuaddau myfyrwyr neu'n dŷ neu fflat a rennir. Rhaid i'ch cyfeiriad cartref ar gyfer yr yswiriant modur fod lle byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser, ond gallwch gael cyfeiriad gohebiaeth ar wahân os nad ydych am i'ch post fynd i'ch cyfeiriad dros dro.
Mae'n bosibl y gallai newid eich cyfeiriad wneud eich premiwm yn ddrutach ond os nad ydych yn dweud wrth eich yswiriwr eich bod wedi symud rydych mewn perygl o annilysu unrhyw hawliadau yn y dyfodol.
Gallwch wneud cais am drwydded parcio ymwelwyr os ydych yn byw mewn stryd sy'n rhan o'r cynllun Trwyddedau Parcio Preswylwyr. Gall eich ymwelwyr ddefnyddio'r oriau hyn pryd bynnag y bydd angen iddynt barcio.
Gallwch brynu swp o 850 awr, hyd at 6 gwaith y flwyddyn. Bydd 1 swp o 850 awr yn costio £ 5. Byddwch yn gallu prynu uchafswm o 5100 awr y flwyddyn.
Wedi i chi brynu oriau bydd angen i chi gofrestru cerbyd eich ymwelydd pan fydd angen iddynt barcio. Gallwch ddefnyddio oriau parcio ymwelwyr yn syth ar ôl eu prynu. I actifadu’r oriau ymwelwyr, mewngofnodwch i'r system MiPermit a chliciwch ar 'Rheoli Trwyddedau Digidol'.
Bydd unrhyw drwyddedau y mae’n bryd eu hadnewyddu yn cael eu nodi ar eich cyfrif yn y system MiPermit. Os oes gan eich cyfrif gyfeiriad e-bost ynghlwm wrtho, byddwn hefyd yn anfon e-bost atgoffa ychydig wythnosau cyn i'r drwydded ddod i ben.
Gallwch adnewyddu eich trwydded ar-lein neu drwy ddefnyddio ap MiPermit. Bydd angen i chi:
- Glicio’r botwm 'Adnewyddu' yn y ddewislen
- Dewis y drwydded yr hoffech ei hadnewyddu
- Clicio’r botwm 'Adnewyddu Trwydded'
Bydd y wybodaeth hon yn poblogi'r dudalen prynu trwyddedau yn awtomatig. Byddwch yn gallu gwneud newidiadau i'r wybodaeth ar y dudalen hon os oes angen.
Bydd angen i chi nodi manylion eich cerdyn talu i gwblhau'r broses adnewyddu.
Os byddwch yn dewis yr opsiwn 'Adnewyddu Awtomatig' pan fyddwch yn gwneud cais, bydd eich trwydded yn adnewyddu'n awtomatig gyda'r un manylion bob blwyddyn nes i chi ddewis dileu'r opsiwn hwn. Bydd y taliad yn cael ei gymryd 7 diwrnod cyn i'ch trwydded gyfredol ddod i ben.
Os ydych am atal yr awto-adnewyddu gallwch newid eich manylion yn yr adran 'Rheoli Trwyddedau Digidol'.
I newid manylion eich cerbyd bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Mipermit a chlicio ar 'Prynu Trwyddedau ac Archebion Digidol'. Chwiliwch am 'Drwydded Newid Cerbyd' a chwblhau'r cais. Bydd yn rhaid i chi roi:
- Cadarnhad o rif eich trwydded bresennol
- Cadarnhad o rif cofrestru eich cerbyd blaenorol
- Tystiolaeth o’r ffaith bod y Cerbyd wedi’i gysylltu â’r cyfeiriad
Ni allwch drosglwyddo trwyddedau rhwng gwahanol eiddo. Os byddwch yn symud eiddo, canslwch eich trwydded bresennol. Gallwch ofyn am ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sydd heb eu defnyddio ar eich trwydded gyda ffi weinyddol o £5 wedi’i thynnu.
Yn ogystal, dylech gysylltu â thîm MiPermit a fydd yn canslo eich cyfrif yn eich cyfeiriad blaenorol. Yna byddwch yn gallu gwneud cais arall am gyfrif newydd yn eich eiddo newydd.
Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi i ni mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, gallai gael ei defnyddio i benderfynu a allwch gael trwydded, ac ar gyfer dadansoddi ystadegol. Gallai gael ei rhannu hefyd â Swyddfa Archwilio Cymru i ganfod ac atal twyll.
Darllenwch ein polisi Diogelu Data neu ffoniwch 029 2087 2088 a gofynnwch am y Swyddog Diogelu Data.