Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Parcio gyda bathodyn glas

Eich cyfrifoldeb chi yw cadw'ch bathodyn glas yn ddiogel.  

Ni ddylech adael eich bathodyn yn eich cerbyd pan nad ydych yn ei arddangos, hyd yn oed os ydych yn defnyddio'r cerbyd yn aml.    

Dim ond os mai chi yw'r deiliad cofrestredig y gallwch ddefnyddio bathodyn glas, neu os yw'r deiliad cofrestredig yn teithio gyda chi yn y car. ​ 

Dysgwch fwy am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel deiliad bathodyn 

Sut i arddangos eich bathodyn

​Mae'n rhaid i chi arddangos eich bathodyn ar ddashfwrdd eich car. Rhaid i'r manylion fod yn weladwy drwy'r ffenestr flaen.  

Os ydych chi'n parcio yn rhywle sydd â chyfyngiad amser, rhaid i chi arddangos y cloc parcio gyda'r bathodyn i ddangos yr amser gyrhaeddoch chi.  

Efallai y cewch docyn parcio os byddwch yn arddangos y rhain yn anghywir. 

Ble allwch chi barcio

 Gallwch ddefnyddio eich bathodyn glas i barcio mewn: 

  • mannau parcio talu ac arddangos ar y stryd, 
  • meysydd parcio'r cyngor, a
  • mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn unig.
     


  • Gallwch barcio am hyd at 3 awr gyda'ch cloc parcio:  

  • mannau parcio i breswylwyr,
  • Ar linellau melyn dwbl, a
  • llinellau melyn sengl.
     


  • Os ydych yn parcio yn y mannau hyn y tu allan i'r oriau rheoledig, mae am ddim. ​

    Rhaid i chi wirio arwyddion y maes parcio i gael gwybodaeth am ffioedd, cyfyngiadau amser a rheolau arbennig ar gyfer deiliaid bathodyn glas, neu waharddiadau llwytho.  

Parcio ar gyfer digwyddiadau

Yn ystod digwyddiadau yng nghanol y ddinas, gallwch ddefnyddio'r mannau parcio ar y stryd sydd ar gael. Codir tâl am barcio yng Ngerddi Sophia neu'r Ganolfan Ddinesig. ​ 

Defnyddio eich bathodyn glas dramor

Mae'r rheolau ar gyfer defnyddio eich bathodyn yn wahanol dramor.  Gwiriwch y rheolau mewn gwledydd eraill 

Camddefnyddio bathodyn glas

Os ydych yn camddefnyddio eich bathodyn neu'n defnyddio un nad yw'n perthyn i chi, cewch ddirwy o hyd at £1,000. Gallech hefyd gael eich erlyn.  

Gallwch roi gwybod i ni'n gyfrinachol os yw rhywun yn parcio'n anghyfreithlon mewn man parcio bathodyn glas, neu'n camddefnyddio bathodyn glas, drwy ffonio:
029 2087 2088. 

Gallwch hefyd ddweud wrthym am broblemau parcio eraill.​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd