Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Camddefnyddio bathodyn glas

Deiliad y bathodyn neu’r gwarcheidwad sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Bathodyn Glas yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.

Rydym yn argymell yn gryf fod y bathodyn yn aros gyda deiliad y bathodyn pan nad yw'n cael ei ddefnyddio. Peidiwch â'i adael mewn cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r cerbyd yn rheolaidd.

Rydym ni'n cynnal gorfodi bathodynnau glas yn effeithiol. Os canfyddir eich bod yn camddefnyddio'r bathodyn, gallwch gael eich erlyn.

Dim ond os mai chi yw'r deiliad cofrestredig y gallwch ddefnyddio bathodyn glas, neu os yw'r deiliad cofrestredig yn teithio gyda chi yn y car. 

Mae Swyddogion Twyll yn patrolio'r ddinas yn rheolaidd a gallan nhw gipio bathodyn os ydyn nhw’n nodi ei fod yn cael ei gamddefnyddio. 

Os ydych yn defnyddio bathodyn nad yw'n perthyn i chi, cewch ddirwy o hyd at £1,000. 

Gallwch roi gwybod i ni'n gyfrinachol os yw rhywun yn parcio'n anghyfreithlon mewn man parcio bathodyn glas yn unig neu'n camddefnyddio bathodyn glas drwy ffonio 029 2087 2088. 


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd