Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Tramgwyddau

Mae Hysbysiadau Tâl Cosb (dirwy barcio) yn cael eu cyflwyno i gerbydau sy’n cyflawni troseddau parcio neu draffig symudol. 

Os cewch Hysbysiad Tâl Cosb​​, rhaid i chi benderfynu p’un a ydych am dalu neu apelio. 

Isod ceir rhestr o rai o’r troseddau hyn a’u hystyron i’ch helpu i osgoi cael dirwy.


01 - Llinellau melyn dwbl - Parcio mewn stryd cyfyngedig yn ystod oriau penodol


Double yellow lines
  • Dim aros ar unrhyw adeg
  • Cewch stopio pan fydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond ni ddylid gadael y cerbyd yno.
  • Gallwch lwytho a dadlwytho os yw'n gwbl amlwg mai dyna sy'n digwydd.
  • Gall deiliaid bathodynnau glas barcio am hyd at dair awr heb ddychwelyd am awr gyda bathodyn glas dilys wedi'i ddangos yn glir a chloc amser wedi'i osod yn gywir. (cyfeiriwch at y llyfryn)
  • Dim angen arwydd ar gyfer y cyfyngiad.
  • Mae'r llinellau melyn hefyd yn berthnasol i'r palmant, y briffordd neu'r llain ymyl.

Llinellau melyn sengl 

Single yellow lines

  • Yn ystod oriau gweithredu fel y nodir ar y plât amser, mae’r marciau hyn yr un fath â llinellau melyn dwbl.​
  • Y tu allan i’r oriau hyn, nid yw’r cyfyngiad llinell felyn yn berthnasol.​

02 / 02J – Wedi Parcio ar Gyfyngiad Llwytho – Wedi parcio neu’n llwytho/dadlwytho ar stryd cyfyngedig pan fo cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho ar waith.

Parked on Loading Restriction 
Cyfyngiadau llwytho 
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Mae llinellau melyn (ticiau) ar y cwrbyn neu ar ymyl y lôn gerbydau‘n nodi bod cyfyngiad llwytho ar waith.
  • Mae tic sengl ar y cwrbyn yn golygu dim llwytho rhwng yr oriau a nodir ar y plât amser (plât gwyn – gall yr amseroedd amrywio a rhaid gwirio’r plât amser). 
  • Mae dau dic melyn ar y cwrbyn yn golygu na chaniateir llwytho neu ddadlwytho ar unrhyw adeg.
  • Gall cerbydau stopio wrth i deithwyr fynd i mewn neu allan o’r cerbyd, ond ni chânt aros ac mae’n rhaid i’r gyrrwr beidio â dod allan o’r cerbyd. 
  • Ni all deiliaid bathodynnau glas barcio ar gyfyngiad llwytho.​
  • Gellid gorfodi’r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai’n cael ei anfon drwy’r post yn lle. 

05 - Parcio ar ôl i’r amswer y talwyd amdano ddod i ben

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio’n hirach na’r amser a nodir ar y tocyn, neu’n hirach na’r amser y talwyd amdano ar MiPermit.

11 – Parcio heb dalu’r tâl parcio

  • Rhoddir 10 munud o oddefgarwch.
  • Ar ôl 10 munud gall swyddogion gorfodi parcio gyhoeddi ffi’n syth.
  • Mae gofyn i chi ddangos tocyn dilys neu fod â thocyn electronig i barcio yn y man parcio pan fo’n ofynnol.

12 – Parcio mewn Man Parcio Preswylwyr heb drwydded – Wedi parcio mewn man parcio i breswylwyr neu ddefnydd a rennir heb arddangos yn glir un ai trwydded neu docyn, neu docyn talu ac arddangos ar gyfer y lleoliad hwnnw.

Parking in a Resident Bay without a permit 
  • Ni chewch barcio mewn man parcio i breswylwyr pan fydd yn weithredol heb docyn dilys sydd wedi’i arddangos yn glir. Bydd yr oriau y mae’n weithredol wedi’i nodi’n glir ar yr arwydd cyfagos.
  • Yng Nghaerdydd, gall deiliaid bathodynnau glas barcio am hyd at dair awr heb ddychwelyd am awr gyda bathodyn glas dilys wedi’i ddangos yn glir a chloc amser wedi’i osod yn gywir.​
  • Gallwch barcio at ddibenion llwytho a dadlwytho. Rhaid i lwytho a dadlwytho parhaus ddigwydd a rhaid i swyddog weld hyn yn digwydd. Yna, rhaid symud y Cerbyd i fan parcio nad yw’n gyfyngedig. 

16 – Wedi parcio mewn man trwydded heb arddangos trwydded ddilys.

Parked in a permit space without a valid permit 
  • Ni chewch barcio mewn man parcio trwydded pan fydd yn weithredol heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad hwnnw, neu efallai y bydd ar gyfer cerbydau penodol yn unig (h.y. Doctoriaid, Clwb Ceir). Bydd yr oriau y mae’n weithredol wedi’i nodi’n glir ar yr arwydd cyfagos.
  • Does dim eithriad i ddeiliaid bathodynnau glas yn y mannau parcio hyn.

19 – Parcio mewn Man Parcio i Breswylwyr gyda Thrwydded annilys

Parking in a Resident bay with an invalid Permit
Mae angen i chi arddangos trwydded dilys yn glir wrth barcio mewn man parcio i breswylwyr. 

Ystyrir y drwydded yn annilys a chyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw:
  • ​y drwydded wedi dod i ben.
  • y cerbyd wedi parcio ar stryd sydd â thrwydded ar gyfer lleoliad arall.
  • y drwydded wedi’i gorchuddio a does dim modd gweld holl fanylion y drwydded.
  • rhif cofrestru’r cerbyd yn wahanol i’r rhif cofrestru ar y drwydded. 




21 – Dychwelyd i fan parcio aros cyfyngedig o fewn amseroedd penodol – Wedi ail barcio yn yr un man neu barth parcio o fewn awr o adael (neu amser penodol arall)


Returning in a limited waiting bay within prescribed times. 
  • Mae’r wybodaeth ‘dim dychwelyd’ ar yr arwydd. Golyga hyn na chewch ddychwelyd i’r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a nodir. Bydd swyddogion gorfodaeth parcio’n cadw cofnod o’r holl gerbydau sydd wedi parcio mewn mannau parcio aros cyfyngedig i sicrhau nad ydynt yn gor-aros na’n dychwelyd i’r man parcio o fewn yr amserlen benodol. 
  • Gall deiliaid bathodynnau glas barcio’n hirach na’r amseroedd a nodir ar yr arwyddion gyda bathodyn glas dilys wedi’i arddangos yn glir, oni bai bod yr arwyddion yn nodi fel arall ond pan fydd y cerbyd wedi symud mae’r rheol dim dychwelyd yn berthnasol. 



23 - Wedi parcio mewn man neu ardal barcio nad yw wedi’i ddynodi ar gyfer y dosbarth cerbyd hwnnw.







Os yw arwydd yn nodi mai dim ond math penodol o gerbyd all barcio yn y man parcio hwnnw yn ystod yr amseroedd sydd ar yr arwydd:

  • Man Llwytho Cerbydau Nwyddau – Dim ond cerbydau sydd wedi’u haddasu’n barhaol ar gyfer cario nwyddau/eitemau gaiff ddefnyddio’r man hwnnw.
  • Man Bysus – Dim ond cerbyd gydag o leiaf 9 o seddi i deithwyr gaiff barcio yma.
  • Man Beiciau Modur – Dim ond beiciau modur gaiff barcio yn y mannau parcio hyn. 

24 – Heb barcio’n gywir o fewn marciau’r man neu le parcio.

  • Wrth barcio mewn man, lle neu faes parcio rhaid i chi sicrhau bod eich cerbyd yn gyfan gwbl o fewn y man parcio wedi’i farcio neu leoedd parcio dilys.

25 – Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho 

Parking in loading bay without loading  
Mannau llwytho
  • Mannau gwyn wedi’u marcio â’r geiriau ‘llwytho yn unig’ neu ‘man llwytho’. 
  • Gall y mannau hyn fod wedi’u cyfyngu i fathau penodol o gerbydau, megis cerbydau nwyddau.
  • Os nad oes amseroedd wedi’u nodi, mae’r man parcio’n weithredol bob amser.
  • Dim ond o’r mannau parcio hyn y cewch lwytho a dadlwytho, ac ar ôl gorffen bydd angen i chi symud eich cerbyd o’r man llwytho.  Mae’n bosibl y bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os nad yw swyddog yn gweld unrhyw lwytho neu ddadlwytho’n digwydd.

26 – Cerbyd wedi’i  barcio mwy na 50cm o ymyl y lôn gerbydau heb fod y tu mewn i fan parcio dynodedig.


Parked more than 50cm away from the edge of the carriageway 
  • ​Does dim angen amser goruchwylio, a bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno pan fydd cerbyd wedi’i barcio yn y lôn gerbydau a phan bo’r cerbyd yn ei gyfanrwydd yn fwy na 50cm i ffwrdd o’r cwrbyn.  Mae hyn yn cynnwys parcio dwbl. 

27 - Wedi parcio gyferbyn â​ throedffordd isel

Parked adjacent to a dropped footway / driveway 
  • Does dim angen amser goruchwylio. 
  • Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb pan fydd cerbyd wedi’i barcio un ai’n rhannol neu’n llawn ar draws gwrbyn isel.
  • Gall parcio ger cwrbyn isel ac ati achosi anghyfleustra sylweddol a rhoi defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed mewn perygl. Gall parcio gyferbyn â chwrbyn isel ger mynediad at eiddo fod yn niwsans sylweddol i yrwyr sy’n ceisio mynd i mewn neu adael yr eiddo. 
  • Mae’r Cod Priffyrdd yn dweud wrth yrwyr “peidiwch â stopio neu barcio... lle mae’r cwrbyn wedi’i wneud yn is i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd pŵer, neu lle byddai’n rhwystro defnydd beicwyr o gyfleusterau beiciau… oni bai pan fo’n rhaid gwneud hynny oherwydd traffig sefydlog”. 

28 - Wedi parcio ar ran o’r lôn gerbydau a godwyd i gyrraedd lefel y droedffordd, y trac beiciau neu’r llain ymyl.

​Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno pan fydd cerbyd wedi’i barcio ar y ffordd lle mae’r lôn gerbydau wedi codi i lefel y lôn gerbydau / llain ymyl cyfagos.

30 – Parcio’n hirach na'r hyn a ganiateir

Parking longer than permitted in a limited waiting bay  
Mannau aros cyfyngedig  
  • Yn amlwg oherwydd marciau’r man parcio a’r arwyddion sy’n nodi’r uchafswm o amser y cewch barcio yn y man parcio hwnnw. Does dim cyfyngiad amser i ddeiliaid bathodynnau glas oni bai bod yr arwydd yn nodi’n wahanol.
  • Mae’r wybodaeth ‘dim dychwelyd’ ar yr arwydd. Golyga hyn na chewch ddychwelyd i’r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a nodir. Bydd swyddogion gorfodaeth parcio’n cadw cofnod o’r holl gerbydau sydd wedi parcio mewn mannau parcio aros cyfyngedig, gan gynnwys ardaloedd talu ac arddangos, i sicrhau nad ydynt yn gor-aros na’n dychwelyd i’r man parcio o fewn yr amserlen benodol. 
  • Mae’r eithriadau’n berthnasol dim ond i ddeiliaid trwyddedau preswylwyr penodol gyda thrwydded ddilys ar gyfer ardaloedd parcio aros cyfyngedig. 


40 – Parcio mewn man parcio dynodedig i berson anabl heb ddangos yn glir bathodyn person anabl dilys

Parking in a Disabled Bay  
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn. 
  • Ni chewch barcio mewn mannau parcio ar gyfer defnyddwyr penodol megis deiliaid bathodynnau glas, oni bai bod gennych hawl i wneud hynny.
  • Pan fyddwch yn parcio mewn man parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn unig, rhaid arddangos bathodyn glas yn gywir ac yn glir bob amser.  

45 / 45J - Wedi parcio mewn safle tacsis

Safleoedd Tacsi 
 Parking on a Taxi Rank 
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni ddylech barcio mewn safle tacsis pan fydd ar waith. Bydd yr oriau y mae’n weithredol wedi’i nodi’n glir ar yr arwyddion cyfagos. Os nad oes amser ar yr arwyddion bydd y safle tacsis ar waith bob tro. 
  • Mae hyn ond yn berthnasol ar gyfer cerbydau hacni, nid cerbydau llogi preifat, ac mae’n rhaid i’r gyrrwr aros yn y cerbyd a bod ar gael i’w logi.
  • Gellid gorfodi’r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai’n cael ei anfon drwy’r post yn lle hynny.

47 / 47J – Wedi stopio ar safle bws neu ar arhosfan cyfyngedig

Stopping in a Bus Stop 
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni chaniateir i unrhyw gerbyd stopio ar safle bws / arhosfan oni bai am Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus neu Gerbydau Hacni fel y’i diffinnir gan ddeddfwriaeth.
  • Rhaid i fysus ddefnyddio arosfannau bysus i adael i deithwyr adael y bws neu ddod ar y bws yn unig. Fodd bynnag, gallent barcio am gyfnod hirach i gynnal amserlen neu i newid gyrrwr.
  • Gall Cerbyd Hacni stopio dim ond am yr amser sydd ei angen i godi neu ollwng teithwyr. Ni all cerbydau llogi preifat stopio. ​
  • Gellid gorfodi’r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai’n cael ei anfon drwy’r post yn lle hynny.​

48 / 48J – Wedi stopio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol

Stopping on School Zig Zags
Marciau igam-ogam melyn
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Pan fyddwch y tu allan i ysgolion, mae’r marciau hyn yn nodi’r rhan o’r ffordd lle na ddylech stopio, ddim hyd yn oed i godi neu ollwng plant neu deithwyr eraill.
  • Os oes arwydd ar i fyny, bydd cyfyngiad hanfodol o ran stopio yn ystod yr amseroedd a nodir. ​
  • Darperir y marciau hyn y tu allan i ysgolion i sicrhau y gall plant weld a chael eu gweld yn glir wrth groesi’r ffordd.
  • Gellir gorfodi’r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai’n cael ei anfon drwy’r post yn lle hynny.​
  • Mae’n dal i fod yn berthnasol yn ystod gwyliau’r haf oni bai y nodir fel arall. 

99 – Wedi stopio ar groesfan i gerddwyr a/neu fan croesi a nodir gan linellau igam-ogam

Llinellau igam-ogam ar groesfan i gerddwyr 
Stopping on Pedestrian Crossing
  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni chewch barcio na stopio ar groesfan i gerddwyr neu yn yr ardal sydd â marciau igam-ogam. Gosodir y marciau hyn yn benodol i gynnal diogelwch cerddwyr. 
  • Gall yr heddlu gyflwyno dirwyon a dyfarnu pwyntiau cosb.​
  • Gellid gorfodi’r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai’n cael ei anfon drwy’r post yn lle hynn.

73 – Wedi parcio heb dalu’r costau parcio

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno is yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio heb dalu’r hyn sydd angen ei dalu i barcio drwy brynu tocyn neu dalu ar MiPermit.
  • Rhaid arddangos tocynnau Talu ac Arddangos yn glir ar y panel deialau.
  • Rhaid i docynnau fod wedi’u gosod y ffordd gywir yn dangos manylion cofrestru cywir y cerbyd. ​
  • Rhaid i daliadau a wneir ar MiPermit gynnwys manylion cywir y cerbyd a’r lleoliad parcio er mwyn cael eu hystyried yn ddilys.​

81 - Wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio 

Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig o faes parcio, er enghraifft mewn ardal wedi’i marcio. 

82 - Wedi parcio ar ôl i’r amser y talwyd amdano ddod i ben

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio’n hirach na’r amser a nodir ar y tocyn, neu’n hirach na’r amser y talwyd amdano ar MiPermit.​

83 - Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys neu daleb neu gloc parcio.

Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos dilys. Rhaid i’r tocyn gael ei arddangos ar y panel gyda’r ochr gywir wedi’i arddangos a rhif cofrestru’r cerbyd yn llawn.

85 – Wedi parcio mewn man trwydded heb arddangos trwydded ddilys

Parked in a permit space without a valid permit 
  • Ni chewch barcio mewn man parcio trwydded heb drwydded ar gyfer y lle hwnnw. (h.y. Trwyddedau Busnes) 

86 – Wedi parcio y tu hwnt i farciau'r man parcio.

  • Wrth barcio mewn man, lle neu faes parcio rhaid i chi sicrhau bod eich cerbyd yn gwbl o fewn y man parcio wedi’i farcio neu leoedd parcio dilys.

87 – Parcio mewn man parcio dynodedig i berson anabl heb ddangos yn glir bathodyn person anably dilys


Parking in a Disabled Bay 
  • Does dim angen amser goruchwylio ar swyddogion gorfodaeth barcio ar gyfer y tramgwydd hwn. 
  • Ni chewch barcio mewn mannau parcio ar gyfer defnyddwyr penodol megis deiliaid bathodynnau glas, oni bai bod gennych hawl i wneud hynny.​
  • Pan fyddwch yn parcio mewn man parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn unig, rhaid arddangos bathodyn glas yn gywir ac yn glir bob amser

31 – Mynd i mewn a stopio mewn cyffordd blwch heb ganiatâd 

Yellow boxes  
  • ​​Ni ddylech fynd i mewn i flwch melyn oni bai bod eich allanfa’n glir.
  • Cewch fynd i mewn i’r bocs ac aros pan fyddwch eisiau troi i’r dde, ond does dim modd i chi wneud hynny oherwydd traffig yn dod y ffordd arall, neu gan gerbydau eraill sydd hefyd eisiau troi i’r dde.
  • Mae cyffyrdd sgwâr ffordd gylchol wedi’u marcio ar y lôn gerbydau gyda llinellau croes melyn ac mewn cylchfannau â signalau, ni ddylech fynd i mewn i’r bocs oni bai y gallwch ei groesi’n llwyr heb stopio.​
  • Gorfodir blychau melyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy’r post.

34 – Gyrru mewn lôn fysus

Bus lanes 
  • Ni chewch yrru na stopio mewn lôn fysus pan fydd ar waith. Nid yw’n berthnasol i rai cerbydau, megis beics a thacsis. Nodir y rhain ar yr arwyddion. 
  • Gallwch stopio i adael teithwyr fynd i mewn neu allan o’ch cerbyd.
  • Caniateir i chi groesi lôn fysus i fynd i mewn i ffordd ymyl ond nid teithio ar hyd y lôn fysus i wneud hynny. 
  • Gorfodir hyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy’r post.
  • Mae’n rhaid i gerbydau fod ag o leiaf 9 o seddi teithwyr i fod yn fws. 

50 (D Ch neu P) – Cyflawni troad a waherddir


(R,L or U)- Banned Manoeuvres 
  • Dim tro pedol, dim troi i’r chwith, dim troi i’r dde.
  • Ni chewch berfformio’r symudiad a ddangosir ar yr arwydd.
  • Gorfodir hyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy’r post.​
  • Gall cerbyd ag awdurdod gyflawni troad anghyfreithlon os yw yn y dosbarth sydd â chaniatâd i wneud hynny. Bydd y mathau o gerbydau gaiff gyflawni troad sydd fel arall yn anghyfreithlon wastad wedi’u nodi ar arwyddion ychwanegol (h.y. Heblaw am Fysus).

51 – Methu â chydymffurfio ag arwydd dim mynediad.

No Entry 
  • Ni chewch basio’r arwyddion hyn.  ​
  • Gall cerbydau ag awdurdod basio’r arwyddion hyn os ydynt mewn dosbarth â chaniatâd i wneud hynny, bydd mathau’r cerbydau sydd â chaniatâd i fynd i mewn wedi’u dangos ar arwyddion ychwanegol (h.y. Heblaw am Fysus).
  


​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd