Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i adael

​​​​​Beth yw cerbyd wedi’i adael?

Gellir ystyried bod cerbyd wedi’i adael os yw yn yr awyr agored neu ar y briffordd ac: 

  • Nid oes ceidwad cofrestredig ganddo, neu
  • Mae wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol, wedi'i losgi o'r tu mewn, wedi'i fandaleiddio, wedi’i dreulio’n llwyr neu heb fod yn addas i fynd ar y ffordd fawr, neu
  • Mae darnau hanfodol ar goll, er enghraifft, platiau cofrestru. 



    Mae’n drosedd i adael unrhyw gerbyd yn anghyfreithlon yn yr awyr agored neu ar y briffordd. Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth i symud cerbydau wedi’u gadael dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

    Pan fo rhywun yn rhoi gwybod am gerbyd fel un sydd wedi’i adael mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gysylltu â pherchennog cyfreithiol y cerbyd. Mae hyn i gadarnhau bod y cerbyd wedi’i adael. Ni ellir gwneud trefniadau i symud neu waredu’r cerbyd nes y ceir gwybod am hyn.
     

    Byddwn yn ceisio cysylltu â’r perchennog cofrestredig diwethaf trwy anfon llythyr yn gofyn iddo gysylltu â ni. Os na fydd y perchennog yn cysylltu â ni, gallwn symud y cerbyd ar ôl 7 diwrnod. Os hawlir cerbyd gan y perchennog cofrestredig, nid oes hawl gan y Cyngor i symud y cerbyd ac ni chymerir camau pellach.  

    Dylid adrodd am bob cerbyd heb dreth, neu gerbyd sydd wedi’i barcio ar ffordd gyhoeddus gyda Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS), yma yn lle hynny.​​​​​​​​​​

    Nid yw’r cyngor yn symud cerbydau o dir preifat ar hyn o bryd oni bai bod y cais yn cael ei wneud gan berchennog y tir. 


    Os yw perchennog tir am i gerbyd gael ei symud oddi ar ei eiddo rhaid iddo'n gyntaf geisio olrhain perchennog y cerbyd.  Gall perchennog y tir gysylltu â’r DVLA i ofyn iddynt olrhain perchennog y cerbyd. Os yw hyn yn aflwyddiannus gall perchennog y tir gysylltu â’r heddlu i gael gwybod a oes ganddynt ddiddordeb yn y cerbyd. Mae hawl gan perchennog y tir i symud y cerbyd.
         
    Bydd y Cyngor yn symud cerbyd ar ran perchennog tir ar yr amod ei fod yn gallu dangos ei fod wedi gwneud pob ymdrech rhesymol i gysylltu â pherchennog y cerbyd (er enghraifft, dyfynnu rhif digwyddiad yr heddlu a rhoi copïau o unrhyw ohebiaeth i'r Cyngor). Rhaid rhoi holl ddogfennau’r Gofrestrfa Tir i’r Cyngor, gan gynnwys golwg a chynllun teitl y tir sydd ar y gofrestr.


    Dylid anfon y manylion i Abandonvehicles@caerdydd.gov.uk.

    Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i adael




    Os ydych yn credu bod cerbyd wedi’i adael, yn achosi perygl neu broblem o ran diogelwch, rhowch y manylion canlynol fel y gallwn ymchwilio:

    • Yr union leoliad (e.e. gyferbyn rhif 36, Heol yr Ysgol)
    • Marc Cofrestru Cerbyd (os oes gan y cerbyd blatiau cofrestru)​
    • Gwneuthuriad, lliw, Model y Cerbyd (os yw’n hysbys)
    • Cyflwr (e.e. ffenestr wedi torri/crafiadau)
    • Perchennog y tir (os yw’n hysbys)

     
    Lle na ddarperir yr wybodaeth hon, mae’n bosibl na fydd modd i’r Cyngor nodi’r cerbyd cywir a chymryd y camau gweithredu angenrheidiol. 


    ​​

    ​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd