Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriad ardal parcio â thrwydded plas Louisa

​​​​​Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.  


  • Cyfeirnod y Cynllun:  CPZ-K/LP ​
  • Math o gynllun: Parcio
  • Ward:  Butetown 






Trosolwg o’r Cynllun  

Rydym yn cynnig cyflwyno parth parcio yn ardal Bae Caerdydd. Fel rhan o'r cynllun hwn, hoffem gyflwyno "Ardal Parcio â Thrwydded” ym Mhlas Louisa. Mae hyn yn golygu:

  1. Bydd angen i unrhyw gerbyd sy’n parcio ym Mhlas Louisa arddangos trwydded ddilys yn glir
  2. Ni fydd unrhyw fannau parcio â thrwydded wedi'u peintio ar y ffordd ac, yn hytrach, bydd gyrwyr yn cael gwybod mai dim ond cerbydau sy’n arddangos trwydded ddilys a all barcio ym Mhlas Louisa drwy arwyddion wrth y fynedfa/allanfa i'r ardal
  3. Bydd yr Ardal Parcio â Thrwydded ar waith 24 awr y dydd, bob dydd
  4. Bydd trwyddedau ar sail parth ac yn parhau i gael eu cyhoeddi fel y maent ar hyn o bryd, gyda phob eiddo'n gymwys i gael dwy drwydded breswyl ac un drwydded i ymwelwyr
  5. Bydd unrhyw ddeiliaid trwydded presennol ym Mhlas Louisa yn cael parcio yn yr Ardal Parcio â Thrwydded newydd. Ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat. 

Ni fydd unrhyw newidiadau'n digwydd i unrhyw daliadau parcio, prisiau trwyddedau na mannau i'r anabl fel rhan o’r cynllun hwn.


Dweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Roedd 81% o’r ymatebion a gafwyd o blaid y cynllun ac roedd 19% yn erbyn cynllun.  

Yn dilyn yr adborth, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun. Byddwn nawr yn dechrau'r broses  Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT)​.

Byddwch yn gallu gweld dyluniadau parcio manwl ac yn gallu gwrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol os ydych yn dymuno. 

Mae gwneud GRhT yn broses hir a gall gymryd rhwng 6 a 9 mis i'w gwblhau.


© 2022 Cyngor Caerdydd