Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriad ardal parcio â thrwydded plas Louisa

​​​​​Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.  


  • Cyfeirnod y Cynllun:  CPZ-K/LP ​
  • Math o gynllun: Parcio
  • Ward:  Butetown 






Trosolwg o’r Cynllun  

Rydym yn cynnig cyflwyno parth parcio yn ardal Bae Caerdydd. Fel rhan o'r cynllun hwn, hoffem gyflwyno "Ardal Parcio â Thrwydded” ym Mhlas Louisa. Mae hyn yn golygu:

  1. Bydd angen i unrhyw gerbyd sy’n parcio ym Mhlas Louisa arddangos trwydded ddilys yn glir
  2. Ni fydd unrhyw fannau parcio â thrwydded wedi'u peintio ar y ffordd ac, yn hytrach, bydd gyrwyr yn cael gwybod mai dim ond cerbydau sy’n arddangos trwydded ddilys a all barcio ym Mhlas Louisa drwy arwyddion wrth y fynedfa/allanfa i'r ardal
  3. Bydd yr Ardal Parcio â Thrwydded ar waith 24 awr y dydd, bob dydd
  4. Bydd trwyddedau ar sail parth ac yn parhau i gael eu cyhoeddi fel y maent ar hyn o bryd, gyda phob eiddo'n gymwys i gael dwy drwydded breswyl ac un drwydded i ymwelwyr
  5. Bydd unrhyw ddeiliaid trwydded presennol ym Mhlas Louisa yn cael parcio yn yr Ardal Parcio â Thrwydded newydd. Ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat. 

Ni fydd unrhyw newidiadau'n digwydd i unrhyw daliadau parcio, prisiau trwyddedau na mannau i'r anabl fel rhan o’r cynllun hwn.


Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
 
Rydym yn adolygu’r ymatebion ac yn penderfynu p’un ai i barhau â’r cynllun neu beidio.
 
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon cyn gynted ag y byddwn wedi gwneud penderfyniad.​

© 2022 Cyngor Caerdydd